<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:10, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gysylltu fy hun â’r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd? Rwy’n credu bod bron bawb, os nad pawb, sy’n cynrychioli’r ardal, ac yn sicr y bobl sy’n byw yn yr ardal, yn pryderu ei bod i’w gweld yn cymryd amser hir i’r cytundeb dinas ddwyn ffrwyth yn Abertawe yn wahanol i lefydd eraill ym Mhrydain.

Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i’r Gweinidog yw: beth arall sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cyllid y cytundeb dinas yn cael ei ryddhau i ddinas-ranbarth Bae Abertawe? Os ydych yn dweud, o’r hyn a ateboch yn gynharach, fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu, yna bydd angen rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol a Llywodraeth San Steffan, ond yr hyn nad wyf am ei weld yn digwydd i mi ac i eraill yw clywed, ‘Wel, Llywodraeth Cymru sydd heb wneud popeth sydd angen iddi ei wneud’.