Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am y pwyntiau hynny; rwyf wedi gwrando’n ofalus arnynt. Mae’n debyg mai fy ymateb uniongyrchol yw bod angen i’r bobl sydd wedi bod yn rhan o’r holl waith a wnaed ar y cytundeb hyd yn hyn ddal ati yn awr a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau. Pan fydd gennym gytundeb wedi ei gytuno ac y bydd modd ei ariannu, yna rwy’n credu y bydd y pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â sicrhau bod gan y bobl o gwmpas y bwrdd allu cynrychiadol i adlewyrchu busnes yn yr ardal yn bwysig iawn, a byddaf yn sicrhau bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y trafodaethau y byddwn yn eu cael gyda hwy.