Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb yna. Mae rhaglen llywodraethu Cymru ar gyfer y Llywodraeth a gyhoeddwyd ddoe yn cyfeirio at gynllun grantiau bach a fydd yn y cynllun datblygu gwledig. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a allwch chi gadarnhau a fydd yr arian yma ar gael yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer y cynllun hwn? Os felly, faint o arian a fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi at y cynllun? Efallai y gallech chi gymryd y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ariannu’r cynllun yma.