Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig yr holl welliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies AC. Mae’n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, na fyddwn yn cefnogi cynnig UKIP y prynhawn yma am fod y Ceidwadwyr Cymreig, a dweud y gwir, yn cydnabod bod Cymru yn wahanol i Loegr. Rydym yn credu bod y dirwedd addysg yn wahanol, ac o ganlyniad i hynny, nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd mai cynnwys dethol yn ein system addysg yw’r ffordd gywir ymlaen i ysgolion yma. Yn lle hynny, credwn y dylai’r system addysg fod yn un sy’n ffynnu ar ddewis—dewis disgyblion, dewis dysgwyr, ac yn wir, dewis rhieni—ac un peth sy’n gwbl druenus ar hyn o bryd yw bod llawer o bobl yn cael eu hamddifadu o’r gallu i ddewis yr ysgol y maent am ei mynychu. Bob blwyddyn mewn rhai ysgolion, caiff cannoedd o ddisgyblion eu gwrthod gan yr ysgolion hynny yn syml am nad oes digon o leoedd ynddynt. Mae yna rwystrau ar hyn o bryd sy’n atal yr ysgolion hynny rhag cael creu mwy o lefydd ar gyfer y disgyblion sydd eisiau mynychu’r ysgolion hynny. Mae hynny’n anghywir. Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i gael gwared ar y rhwystrau hynny er mwyn i ysgolion da a llwyddiannus allu ffynnu, a thyfu lle mae galw am leoedd ynddynt.
Nawr, rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru bolisi lleoedd gwag yma yng Nghymru, sy’n peri i awdurdodau lleol edrych ar y ddarpariaeth yn eu hardaloedd er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn. Ond yn anffodus, mae cyflymder y newid o ran gallu darparu ar gyfer y galw am leoedd ychwanegol mewn ysgolion llwyddiannus yn golygu na ellir diwallu’r galw hwnnw ar hyn o bryd. Rydym am weld gallu ysgolion o’r fath i ehangu yn cyflymu. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn garedig yn ei hymateb i’n cyfraniad i’r ddadl hon y prynhawn yma oherwydd, fel hi, rwyf am weld ysgolion Cymru ymysg y gorau yn y byd. Rwy’n credu’n wirioneddol fod gennym rai ysgolion sydd ymhlith y gorau yn y byd ar garreg ein drws. Ond yn anffodus, nid yw pob ysgol yn ysgol wych yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni dderbyn y ffaith honno ac mae angen i ni sicrhau bod pob ysgol yn gwella er mwyn i bob person ifanc gael y cyfle gorau posibl mewn bywyd y gall eu hysgol eu paratoi ar eu cyfer.
Nawr, rwy’n wleidydd na fydd byth yn dweud ‘byth’ wrth unrhyw syniad. Os daw adeg yn y dyfodol pan fo’r dystiolaeth yn awgrymu bod symudedd cymdeithasol yn gwella drwy gael ysgolion gramadeg neu drwy ddethol yn y system, yna byddaf yn barod i edrych ar hynny. Ond ar hyn o bryd, nid ydym yn argyhoeddedig fod y dystiolaeth yno.
Rwyf wedi edrych gyda diddordeb ar y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon lle mae mwy o ysgolion gramadeg yn y system wladol wrth gwrs. Mae eu perfformiad o ran cyrhaeddiad TGAU a Safon Uwch yn hynod o dda. Ond wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr arall yng Ngogledd Iwerddon yw bod yna nifer fawr o ysgolion ffydd. Felly, beth sy’n arbennig am Ogledd Iwerddon sy’n gwneud y gwahaniaeth i gyrhaeddiad addysgol a pherfformiad ysgolion? Ni all unrhyw un roi ei ys ar y peth mewn gwirionedd a dweud mai ysgolion gramadeg yw’r rheswm. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â dethol yn unig chwaith. Felly, rwyf am weld rhagor o dystiolaeth ar hyn.
Nid wyf yn argyhoeddedig fod y sefyllfa yng Nghymru yn galw am newid i gynnwys dethol yn ein system addysg. Ond rwy’n credu mai’r ysgogiad gorau i wella perfformiad mewn ysgolion yw darparu ar gyfer dewis rhieni a chynnig mwy o ddewis i rieni a disgyblion yn gyffredinol. Tybed, Weinidog, mewn ymateb i’r ddadl hon heddiw, a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau i ganiatáu i ysgolion da a llwyddiannus, lle mae galw ychwanegol, i ehangu. Nid wyf yn credu ei bod hi’n iawn nad yw miloedd o blant bob blwyddyn yn cael mynd i’r ysgolion y maent eisiau ei mynychu.