Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 21 Medi 2016.
Ac mae’r disgyblion hynny yn gwneud defnydd o gwricwlwm eang yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Ond nid wyf fi, yn bendant, yn barod i orffwys ar fy rhwyfau, Mr Rowlands. Rwyf eisiau ysgolion sydd hyd yn oed yn well yng Nghymru—ar gyfer fy mhlant, ac ar gyfer holl blant y wlad hon. Mae gennym rai enghreifftiau gwych o ysgolion yn cydweithio â cholegau addysg bellach, sydd, fel y dywed Lynne Neagle, i’w gweld wedi eu hanghofio’n llwyr yn y geiriau hallt a gawsom gan UKIP y prynhawn yma. Mae gennym beirianneg a gweithgynhyrchu yn cael eu cynnig yng Ngholeg Menai. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdod lleol y brifddinas i gyflwyno cyrsiau galwedigaethol yn nwyrain y ddinas. Mae Coleg Penybont yn cynnig cyrsiau gyda’r hwyr ar gyfer pob dysgwr rhwng 14 a 19 oed, ac maent yn helpu i gyflwyno’r Safon Uwch ar ran Ysgol Gyfun Pencoed. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn, ac rwyf am weld y rheini’n cael eu datblygu.
Gan droi at bumed gwelliant Paul Davies, rwy’n pwysleisio ein bod unwaith eto yn gweithio’n galed i godi safonau ym mhob ysgol. Mae gennym raglen ddiwygio uchelgeisiol. Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol ac yn cymryd rhan mewn prosiectau OECD allweddol, megis yr ysgolion dysgu cynnar rhyngwladol ac ysgolion fel sefydliadau dysgu, ac asesu cynnydd mewn meddwl yn greadigol ac yn feirniadol. Ac rydym yn gweithio gyda’r proffesiwn addysgu. Rwyf am i bob ysgol fod yn rhagorol ac nid oes unrhyw ddisgybl nac unrhyw ysgol yn cael eu gadael ar ôl.
Mae chweched gwelliant Paul Davies yn galw am gyflwyno ysgolion rhydd ac academïau ac rwy’n credu mai ffurf arall ar ddethol yw hynny. Rwy’n gwrthwynebu’r polisi hwn yn gryf. Rwyf wedi ymrwymo i system addysg gyfun sy’n gwasanaethu pob dysgwr yng Nghymru. Unwaith eto, rwy’n ailadrodd bod yn rhaid i ni ddilyn y dystiolaeth. Yn syml iawn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod ysgolion rhydd neu academïau yn ateb i bob problem mewn perthynas â chodi safonau. Mae adroddiad y Gyfnewidfa Bolisi yn 2015 yn datgan na cheir tystiolaeth i gefnogi’r honiadau fod ysgolion rhydd yn codi safonau, a dywedodd adroddiad gan bwyllgor addysg Tŷ’r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol o’r effaith ar gyrhaeddiad. Yn wir, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth y DU roi’r gorau i orliwio llwyddiant yr ysgolion hyn.
Mae’r gorau a geir yng Nghymru yn cynnwys traddodiad o hunan-wella, gwybodaeth sy’n democrateiddio ac arweinyddiaeth addysgol. Mae ein diwygiadau addysg wedi eu hysbrydoli gan y gwerthoedd hynny. Mae’r ychydig flynyddoedd nesaf yn allweddol er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau sy’n cael eu rhannu a’u mynnu ar draws Cymru: cyflwyno cwricwlwm newydd a wnaed yng Nghymru, ond wedi ei siapio gan y gorau o bedwar ban byd; un a fydd yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu byw bywydau boddhaus, yn bersonol, yn ddinesig ac yn broffesiynol mewn democratiaeth fodern.
Rwyf am i bob rhiant fod yn hyderus fod eu plentyn yn mynd i ysgol sy’n eu helpu i dyfu fel dinasyddion galluog, iach a chyflawn. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i athrawon gael eu cynorthwyo i fod y gorau y gallant fod, gan godi safon y proffesiwn yn ei gyfanrwydd. Mae athrawon yn rhannu cenhadaeth fel unigolion, yn broffesiynol ac yn genedlaethol i helpu ein plant i lwyddo. Gan weithio’n agos gyda’r proffesiwn, byddwn yn gwella safonau addysgu a chyfleoedd ar gyfer datblygu. Nid wyf fi, Lywydd, yn mynd i gael fy nargyfeirio oddi ar y llwybr hwn ac ni fydd y Llywodraeth hon. Rwy’n ofni nad yw’r alwad hon am ysgolion gramadeg yn ddim mwy na dargyfeiriad.