Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 21 Medi 2016.
Rwy’n credu y gallwn i gyd gytuno ein bod wedi cael dadl ysbrydoledig a difyr. Rwy’n siomedig nad yw Rhianon Passmore yn fy ngweld fel arwr Byronaidd, ond heddiw’n unig yw hynny. Pe bai wedi fy adnabod 40 mlynedd yn ôl, gallai fod wedi dod i gasgliad gwahanol. Ond rwy’n hapus iawn i gyfnewid cyfeiriadau llenyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda hi: mae hi wedi fy atgoffa, gyda’r angerdd y cyflwynodd ei haraith heddiw, am gymeriad yn ‘A Tale of Two Cities’, sef Madame Defarge, y weuwraig a eisteddai wrth waelod y gilotîn ac a anfonai negeseuon cod at bwyllgor diogelwch y cyhoedd yn ôl cyflymder ei gweu i nodi’r rhai a oedd i’w condemnio i’r gilotîn. Felly, mae’n dangos o leiaf ei bod hi wedi cael addysg weddus gan ei bod yn deall pwynt fy sylw bachog.
Ond dechreuasom y ddadl gyda’r darlun difyr o fy ffrind, Darren Millar, yn sefyll ar ei ben. Mae’n anodd gweld pam y dylai’r Blaid Geidwadol yng Nghymru fod mor amlwg o wahanol yn ei pholisi ar addysg i’r drefn newydd yn Lloegr, gan fod Theresa May wedi cyfiawnhau’r newid yn y polisi yn sylfaenol ar sail dewis i rieni. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n credu na ddylid amddifadu pobl Cymru ohono. Mae tua saith o bob 10 o Brydeinwyr, yn ôl datganiad i’r wasg Llywodraeth y DU, am weld y gwaharddiad ar ysgolion gramadeg newydd yn cael ei godi ac mae wyth o bob 10 yn credu y gall ysgolion gramadeg hybu symudedd cymdeithasol pan gaiff pleidleiswyr sydd heb benderfynu eu heithrio.
Wrth gwrs, rydym wedi cael gan wahanol gyfranwyr i’r ddadl—Llyr Gruffydd a Lynne Neagle; rwy’n parchu’r ddau ohonynt yn fawr fel seneddwyr—cawsom ganddynt amrywiol honiadau fod system yr ysgolion gramadeg i’w chondemnio am eu bod yn gwadu mynediad i blant rhieni cymharol dlawd, ac mae hynny’n wir yn Lloegr gan mai dim ond 163 ohonynt sydd ar ôl. Yn Lloegr, yr hyn a gewch yw dethol ar sail cyfoeth yn hytrach na dethol ar sail gallu, oherwydd bod pobl yn symud i ddalgylchoedd yr ysgolion gorau. Mae hynny’n rhywbeth na ellir ei gefnogi. Wrth gwrs, nid oes gennym broblem o’r fath yng Nghymru oherwydd nid oes gennym ysgolion gramadeg. Ond mae hynny hefyd yn golygu bod gennym system sy’n un ateb i bawb.
Gan Lynne Neagle a Rhianon Passmore, cawsom olwg ar y gorffennol ynghylch gorfodi system gyfun. Cafodd Anthony Crosland ei grybwyll gan Rhianon ac wrth gwrs, roedd yn enwog am ei ddatganiad na fyddai’n fodlon hyd nes ei fod wedi dinistrio pob effing ysgol ramadeg yn y wlad. Polisi o orfodaeth oedd ganddo a chael gwared ar ddewis rhieni. Nid wyf yn meddwl fod hynny’n rhywbeth y dylem ei gefnogi yn y byd modern.
Yn y cynnig hwn nid ydym yn argymell y dylem ddychwelyd at y sefyllfa fel yr oedd yn y 1950au a’r 1960au. Euthum i ysgol ramadeg, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, yn y 1960au ac roedd yn fyd o ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern. Dangosodd David Rowlands a Caroline Jones efallai nad oedd lawn mor anhyblyg yn eu hardaloedd ag y gallai fod wedi bod mewn mannau eraill. Y cyfan y mae’r cynnig hwn yn ei wneud, nid yw’n alwad i ddychwelyd at ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern fel yr oeddent, ond yn hytrach i gyflwyno strwythur llawer mwy hyblyg i’r system addysg, fel yn yr Almaen, er enghraifft, lle mae gennych bedwar math gwahanol o ysgol uwchradd, yn seiliedig, yn y bôn, ar allu neu a ydych am gael addysg fwy academaidd neu dechnegol a galwedigaethol. Ymwneud â hynny y mae’r cyfan. Nid yw’n ymwneud â rhannu’r plant yn 11 oed yn ddefaid a geifr; rydym am gael system hyblyg gan fod plant yn datblygu ar gyflymder gwahanol ar oedrannau gwahanol, wrth gwrs. Y broblem fawr gyda’r system ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern yn fy nydd oedd nad oedd ganddynt ddigon o hyblygrwydd, ac mae’n wir mai’r ysgolion uwchradd modern oedd sinderela’r system addysg. Nid oes neb yn gofyn am gael dychwelyd at hynny. Yr hyn rydym ei eisiau yw fersiwn wedi ei huwchraddio a’i moderneiddio o’r system ddewis i rieni, nad yw’n ddadleuol mewn gwledydd eraill.
Y broblem fawr gydag agwedd Kirsty Williams at addysg yw ei bod hi’n mynnu cynnwys cyfyngiad yn y system addysg sy’n golygu, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch ysgol nad yw’n cynnig addysg weddus i blant, eich bod yn cael eich gorfodi i dderbyn y canlyniad hwnnw ac ni allwch symud o un i’r llall. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud—a rhai o welliannau’r Ceidwadwyr rydym yn eu cymeradwyo—. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud yw dweud mai rhieni, yn y pen draw, a ddylai ysgogi polisi addysg, yn hytrach na gwleidyddion a biwrocratiaid. Mae hynny, mewn byd modern a democrataidd—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn siŵr fod gennym amser i wneud hynny. Mae gennym, oes?