6. 6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Broses y Gyllideb

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:21, 21 Medi 2016

Diolch, Lywydd. Rwyf innau’n gobeithio y bydd hwn yn arwain at nifer o ddatganiadau o’r fath. Rwy’n falch iawn o wneud y datganiad hwn heddiw. Rwy’n croesawu penderfyniad doeth y Pwyllgor Busnes i alluogi Cadeiryddion pwyllgor i roi gwybod i’r Siambr am waith a blaenoriaethau eu pwyllgorau. A hithau’n ddechrau tymor newydd yn y Cynulliad, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn brysur yn trefnu ei raglen waith, ac mae hwn yn gyfle inni rannu ein syniadau â chi.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous a heriol i Gymru wrth i faterion cyllidol gael eu datganoli ac wrth i brosesau cyllidebol newydd gael eu cyflwyno. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyfarfu’r pwyllgor â’i randdeiliaid allweddol i drafod yr heriau hyn ac i edrych ar ein dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Un o brif rolau’r Pwyllgor Cyllid yw ystyried y gyllideb ddrafft a sut y bydd datganoli cyllidol i Gymru yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Bwriedir cyhoeddi’r gyllideb eleni ar 18 Hydref ac rydym eisoes wedi cynnal ymgynghoriad, sydd yn dod i ben heddiw. Fodd bynnag, gan fod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal cyn bod rhanddeiliaid yn cael cyfle i weld y cynlluniau gwariant, rydym yn bwriadu lansio sgwrs deialog—dull ap Dialogue, hynny yw—a fydd yn caniatáu i bartïon â diddordeb roi eu barn. Gobeithio y bydd hyn, ynghyd â’r ymgynghoriad ffurfiol, yn darparu tystiolaeth nid yn unig i’r Pwyllgor Cyllid, ond i’r pwyllgorau eraill hefyd ar gyfer eu sesiynau craffu hwythau ar y gyllideb. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid ym Merthyr Tudful.

Dyma’r flwyddyn olaf i’r gyllideb gael ei hystyried o dan y Rheolau Sefydlog presennol—rydym yn gobeithio—a, dim ond y bore yma yn y pwyllgor, gwnaethom drafod papur ar y newidiadau arfaethedig. Fel y bydd Aelodau’n gwybod ac yn cofio, bydd Cymru yn gyfrifol am gasglu a rheoli dwy dreth newydd o fis Ebrill 2018 ymlaen, sef y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cael pwerau benthyca newydd ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf o hyd at £500 miliwn, a phwerau i fenthyg hyd at £500 miliwn arall i reoli amrywiadau cyllidebol tymor byr sy’n deillio o ddatganoli trethi. Bydd y newidiadau hyn yn arwain at newidiadau i’n gweithdrefnau cyllidebau, a byddaf yn sôn am hynny maes o law.

Yn ystod y Cynulliad diwethaf, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Dyma’r Ddeddf sy’n sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r trethi datganoledig hyn. Erbyn hyn, mae’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) wedi’i gyflwyno i’r Cynulliad. Cawsom ni ein sesiwn graffu gyntaf y bore yma yn y pwyllgor. Bydd y tymor, felly, yn brysur iawn i’r pwyllgor wrth iddo graffu ar y Bil technegol a chymhleth hwn, sef—mae’n dda gennyf ddweud wrth y Cynulliad—y darn hiraf o ddeddfwriaeth i gael ei chyflwyno i’r Cynulliad hyd yma. Bydd y Bil yn effeithio ar nifer fawr o’r cyhoedd yng Nghymru, felly bydd yn hanfodol inni ymgysylltu er mwyn sicrhau ei fod yn glir, yn gadarn ac yn ymarferol fel darn o ddeddfwriaeth sydd wedi’i chreu i ddiwallu anghenion Cymru.

Mae llawer o’r rhanddeiliaid allweddol ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn dod o gefndiroedd proffesiynol a chyfreithiol. Felly, bydd y pwyllgor yn cynnal digwyddiad grŵp trafod ag achrediad datblygu proffesiynol parhaus gydag amrywiaeth o sefydliadau proffesiynol, cwmnïau cyfreithiol a gweithwyr o faes treth a thrawsgludo i drafod goblygiadau’r Bil, yn ogystal â chais cyffredinol am dystiolaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y pwyllgor.

Bydd y Biliau treth hyn yn arwain at bwerau codi refeniw i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n fy arwain at un o’n prif flaenoriaethau ni ar gyfer y cyfnod nesaf, sef ystyried newidiadau i broses y gyllideb er mwyn ymdrin â’r datblygiadau cyllidol newydd hyn ac er mwyn sicrhau bod trefniadau ariannu yn addas ar gyfer amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru. Wrth baratoi ar gyfer y newidiadau hyn, gwnaed gwaith gan y Pwyllgor Cyllid yn y pedwerydd Cynulliad i ystyried proses y gyllideb yn y dyfodol.

Mae angen proses newydd ar gyfer y gyllideb yn barod ar gyfer cyllideb ddrafft 2018-19, y bydd y pwyllgor yn dechrau craffu arni yr hydref nesaf. Mae’n hanfodol bod gan y Cynulliad brosesau cadarn ar waith i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion y Cynulliad wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod opsiynau am broses a phrotocol anstatudol dros dro ar gyfer y gyllideb, a gaiff eu cyflawni drwy newidiadau i Reolau Sefydlog—rwy’n gobeithio—a thrwy ddiweddaru’r protocol presennol rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru.

Wrth ystyried y broses hon, rydym yn gobeithio datblygu model sy’n rhoi cymaint o amser â phosib i’r Pwyllgor Cyllid, pwyllgorau perthnasol eraill a’r cyhoedd i graffu’n ystyrlon ar gynlluniau Llywodraeth Cymru o ran gwariant, trethi a benthyca. Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod partneriaid cyflenwi yn cael cadarnhad, cyn gynted â phosib, ynglŷn â faint o gyllid sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r gwaith hwn ar ddatganoli cyllidol yn gyfnod cyffrous i’r Pwyllgor Cyllid ac, rwy’n gobeithio, i’r Cynulliad cyfan, ac rydym yn gobeithio y bydd Bil Cymru yn ein galluogi ni i roi ein gweithdrefnau cyllidebol ar sail statudol drwy gael Bil ar y gyllideb flynyddol, sy’n gam pellach yn esblygiad y Cynulliad hwn i fod yn Senedd lawn.