Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 21 Medi 2016.
Wrth gwrs, roedd llawer o’r addewidion cyn datganoli ac un o ddaliadau craidd datganoli yn ymwneud â lleihau’r rhaniad rhwng gogledd a de Cymru. Yn wir, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 1999 yn dweud hyn:
Rydym yn credu bod gwella cysylltiadau gogledd/de yn hanfodol i gydlyniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol.
Ac roedd yn addo mynd i’r afael â’r angen, y pryd hwnnw, am wella cysylltiadau ffyrdd a chyflwyno gwasanaeth trên newydd, cyflymach. Roedd eu partneriaid yn y glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, yn addo gwella ansawdd y rhwydwaith ffyrdd strategol rhwng y gogledd a’r de. Ac roedd maniffesto Plaid Cymru yr un flwyddyn yn nodi gwella cysylltiadau yng Nghymru rhwng y gogledd a’r de fel amcan allweddol, gan addo gwasanaeth trên cyflym o’r gogledd-orllewin i Gaerdydd fel blaenoriaeth frys, ynghyd â rhwydwaith ffyrdd gweddus "ffigur wyth" i roi cysylltiadau gogledd-de i bob cwr o Gymru a chysylltiadau â’r prif lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin, megis yr A40, yr A55 a’r M4.
Dyma ni, 17 mlynedd yn ddiweddarach—17 mlynedd o addewidion wedi eu torri gan Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ddiweddar, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i werthuso manteision ei buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru. Trenau Arriva Cymru sydd â’r cerbydau hynaf yn y DU, gyda phob trên yn 27 mlwydd oed ar gyfartaledd, ac mae’r cymhorthdal i gyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn bellach wedi codi 27 y cant eto mewn blwyddyn, gan gostio mwy na £1 filiwn bob blwyddyn i’r trethdalwyr. Ac wrth i Lywodraeth Cymru dorri 1.7 y cant oddi ar ei gwariant ar draffyrdd, cefnffyrdd, rheilffyrdd a theithiau awyr yn gyfunol yn ei chyllideb ar gyfer 2016-17, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyllideb ar drafnidiaeth 3.6 y cant, a gwelwyd cynnydd o 4.6 y cant yng ngwariant Llywodraeth yr Alban ar draffyrdd, cefnffyrdd a gwasanaethau trên.
Nawr, yn 2016, addawodd Llafur ryddhau potensial gogledd Cymru drwy ddatblygu system metro gogledd Cymru, ac uwchraddio’r A55, ac eto nid oes unrhyw fanylder, na chynllun na gweledigaeth o gwbl o hyd yn y rhaglen lywodraethu gyfredol. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn mynd ati i archwilio’r gwaith o drydaneiddio rheilffordd y gogledd, gan barhau ei buddsoddiad o £70 biliwn yn nhrafnidiaeth y DU i gynnwys y buddsoddiad o £10.7 miliwn yn nhroad Halton, treblu’r buddsoddiad blynyddol yn y ffyrdd, ac ymrwymo £300 miliwn yn gynharach eleni ar gyfer prosiectau mawr, megis rheilffordd ‘cyflym 3’ a’r twnnel ar draws y Pennines. Ar ben hynny, maent hefyd wedi rhoi £900 miliwn mewn pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru, i’w ddefnyddio dros gyfnod o bum mlynedd, i gyflwyno gwelliannau mawr eu hangen i’r seilwaith, gan gynnwys yr A55. Eto i gyd, hyd yn hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau hyn i sicrhau unrhyw welliannau yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Lywydd, yn ddiweddar roedd gan BBC Wales erthygl ar deithio o ogledd Cymru i’r de, o’r enw ‘A jigsaw piece missing’. I’r rhai ohonom—ac rwy’n golygu fi fy hun fel Aelod Cynulliad sy’n teithio bob wythnos, pobl sydd am wneud busnes yma yn y brifddinas, a rhai sy’n ymweld â chartref datganoli yma ym Mae Caerdydd—sy’n gwneud, neu’n ceisio gwneud, y daith hon yn rheolaidd, efallai y byddem yn dadlau bod mwy nag un darn ar goll.
Mae gan ardal gogledd Cymru asedau, mae ganddi bobl ac mae ganddi entrepreneuriaeth, busnesau a syniadau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod yn awr fod ganddi gyfrifoldeb am ardal lawer ehangach na swigen Bae Caerdydd, a bod yn rhaid iddi roi camau go iawn ar waith, gan ddefnyddio’r pwerau benthyca gan Lywodraeth y DU i wella ac uwchraddio cysylltiadau trafnidiaeth o fewn, i ac o ardal ogoneddus gogledd Cymru.