9. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:39, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Ie, yn hollol. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi ei roi yn ein maniffesto, maniffesto Llafur Cymru. Mewn gwirionedd fe ddywedon ni y byddem yn ystyried ac yn sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli i ranbarthau megis gogledd Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei gael yw penderfyniad clir i fwrw ymlaen â’r cytundeb twf, oherwydd os nad oes cytundeb twf yn mynd i fod, yna bydd yn rhaid i ni edrych ar ffyrdd eraill o ddatganoli cyfrifoldeb a chreu twf economaidd yn yr ardal honno.

Gallaf rannu gyda’r Aelodau y byddaf yn cyfarfod, yn ystod y misoedd nesaf, gyda’r Arglwydd O’Neill i drafod y cytundeb twf ac i drafod materion eraill, a byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y cynnydd. Ond rwyf hefyd wedi penderfynu cyfarfod â chyn-Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, oherwydd credaf y byddai’n werth gwneud hynny, am fy mod wedi dweud ar sawl achlysur fod arnaf ofn y bydd y ffaith ei fod wedi gadael y Trysorlys yn golygu y gallai prosiect Pwerdy’r Gogledd gael ei ohirio. Am y rheswm hwnnw, rwy’n meddwl, er gwaethaf y gwahaniaethau lawer a allai fod rhyngom ar yr economi a chymdeithas yn gyffredinol, gallai fod yn gynghreiriad i ogledd Cymru wrth fynd ar drywydd agenda Pwerdy’r Gogledd.

Gan droi at bwynt 3 y cynnig, hoffwn egluro yn gyntaf ein bod eisoes wedi cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer gwelliannau i’r A55 ar ffurf y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015. Rydym eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol mewn llwybrau allweddol ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys rhaglen o welliannau i gynyddu cydnerthedd yr A55, yn cynnwys gosod lleiniau caled yn ogystal â lonydd gwrthlif mewn argyfwng ac wrth gwrs, rhaglen waith sy’n werth £42 miliwn i wella safon twneli’r A55.

Nodaf yr hyn a ddywedodd yr Aelod am Frychdyn a’r angen i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â’r gyfnewidfa a’r gyffordd, sydd ar hyn o bryd yn golygu bod traffig o’r A55 i gyfeiriad y dwyrain yn gorfod mynd drwy’r pentref. Mae’n rhywbeth y mae fy swyddogion yn ei drafod gyda chynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Rydym hefyd yn buddsoddi tua £32 miliwn i uwchraddio cyffyrdd 15 a 16 ar yr A55 i wella diogelwch a dibynadwyedd amseroedd teithio. Mae contract gwaith draenio datblygedig yn cael ei gyflymu yn awr, a bydd yn gweithredu rhwng cyffyrdd 12 a 13 o’r A55 i helpu, unwaith eto, i leihau’r perygl o lifogydd a gwella llif y traffig yn sgil hynny.

Rwyf eisoes wedi datgan bod yr uwchgynhadledd wedi’i chynnal ym mis Gorffennaf, ymhell cyn y terfyn 100 diwrnod, fod y tasglu ar reilffyrdd wedi cyfarfod yr wythnos hon, a fy mod wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt. Mewn ymateb i’r cwestiwn am y rhwydwaith bysiau, cyhoeddais gynllun gweithredu pum pwynt mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf, ac rwy’n meddwl ei fod yn cael ei gydnabod ledled y DU fel rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei ddilyn. Mae’n rhaid i mi ddweud pan fydd rheoleiddio’n digwydd, credaf y dylem ddefnyddio’r pwerau hynny i wneud mwy na datblygu rhwydwaith wedi ei ddadreoleiddio, ond dylem gael newid mawr yn y ffordd y mae ein rhwydwaith bysiau’n gweithredu.

Symudaf ymlaen at y rheilffyrdd, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod yr achos economaidd dros fuddsoddi mewn trydaneiddio yn ystod cyfnod rheoli 6, a byddwn yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi hyn. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod 12 miliwn o deithiau yn digwydd ar draws gogledd Cymru a ffin gogledd-orllewin Lloegr bob blwyddyn a dim ond 1 y cant o’r teithiau hynny a wneir ar drên. Wrth i ni gynllunio camau nesaf yr anghenion gwella rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae angen i ni wthio Llywodraeth y DU hefyd i sicrhau bod cyfran deg o’i buddsoddiad i wella cysylltedd o fewn gogledd Cymru a rhwng gogledd Cymru a rhanbarthau eraill yn cael ei wireddu, oherwydd, a bod yn onest, yn draddodiadol, mae buddsoddiad Network Rail wedi bod yn llawer is na’r hyn y byddem wedi ei gael pe bai wedi dod drwy fformiwla Barnett i Gymru.

Eto, mewn ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd gan Hannah Blythyn, yr Aelod dros Delyn, integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trefniadau tocynnau amlfoddol ac amlweithredwr, fydd egwyddor sylfaenol metro gogledd-ddwyrain Cymru. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny wrth roi mwy o ystyriaeth i wasanaethau trên a bws. Rydym hefyd yn datblygu argymhellion yn nyffryn Conwy a fydd yn integreiddio gwasanaethau bws a thrên gyda threfniadau ar y cyd ar gyfer tocynnau, gwasanaethau gwell a lefel is o gymhorthdal ​​bysiau.

Er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd ar gyfer cysylltedd trawsffiniol, bydd metro gogledd-ddwyrain yn ymestyn i’r gogledd ac i’r dwyrain i mewn i ogledd a chanolbarth Lloegr er mwyn creu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon ac integredig o ansawdd da ar draws yr is-ranbarth a thu hwnt. Mae cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth gogledd Cymru a metro’r gogledd-ddwyrain, gan nodi atebion a ffafrir ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth ar draws y rhanbarth, yn flaenoriaeth gynnar. Rwy’n edrych ymlaen at allu rhannu manylion gyda’r Aelodau cyn y Nadolig. Y rheswm nad oedd yn ymddangos yn Growth Track 360 oedd am fod Growth Track 360 wedi ei baratoi cyn maniffesto Llafur Cymru lle cyhoeddwyd y metro yn gyntaf.

Roedd Mark Isherwood yn gywir i nodi’r nifer o heriau i bobl sy’n ceisio cael gwaith, ond yn methu am nad oes digon o wasanaethau bysiau neu drenau ar gael neu am eu bod yn costio gormod. Am y rheswm hwnnw—a thynnodd sylw at Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy—fel prosiect â blaenoriaeth ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain, rydym yn edrych ar argaeledd gorsafoedd newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gwaith uwchraddio i Shotton hefyd.

Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n ymuno â mi i baratoi’r achos dros economi gryfach a rhwydwaith trafnidiaeth gwell ar draws gogledd Cymru sy’n cydnabod y realiti fod llawer iawn o bobl yn croesi’r ffin yn ddyddiol ond yn dymuno byw neu weithio yng ngogledd Cymru.