Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 21 Medi 2016.
Ond ‘does bosibl na fyddai’r Aelod hefyd yn cydnabod mai’r hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthym, yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, yw y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio er budd pobl gogledd Cymru, a byddai’n llawer gwell integreiddio ein polisïau â pholisïau Llywodraeth y DU o ran twf economaidd. Mae hynny’n golygu y dylem geisio plethu ein dull o ddatganoli unrhyw bŵer â’r hyn y byddai menter gan Lywodraeth y DU, megis y cytundeb twf, yn ceisio ei gyflawni.