Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, yn gyntaf oll, crybwyllwyd ymwybyddiaeth fyfyriol ym maniffesto Llafur Cymru fel rhywbeth y gellid edrych arno. Pan fyddwn ni’n sôn am iechyd plentyn hyd at saith mlwydd oed, mae’n rhaid i hynny gynnwys pob math o iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl hefyd. Mae hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu'r rhaglen.
Yr ail bwynt yw hwn: mae hi'n iawn, rydym yn gweld achosion lle mae pobl ifanc yn canfod eu hunain o dan lawer o straen. Mae seiber-fwlio yn un maes, yn arbennig, nad oedd yn rhaid iddi hi na minnau ymdopi ag ef ac mae’n rhywbeth sydd yn broblem wirioneddol, ac mae'r rhaglen addysg mewn ysgolion i ymdrin â hynny yn bwysig. Y ffaith fod cwnselwyr yn yr ysgolion uwchradd—mae hynny'n bwysig er mwyn helpu pobl ifanc ac, wrth gwrs, yn y pen draw, gwneud yn siŵr bod yr adnoddau ar gael ar gyfer CAMHS. Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a’r niferoedd leihau wrth i’r adnoddau hynny weithio drwy'r system.