<p>Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, yr ydym eisoes wedi rhoi £98 miliwn i mewn i'r cynllun rhyddhad ardrethi. Mae’n rhaid cael trothwy, yn anffodus, a'r rhai sydd, fel y byddent hwy yn ei weld, ar ben anghywir y trothwy, bydd, bydd yn rhaid iddyn nhw dalu ardrethi busnes. Yr hyn na allwn ei wneud yw cyflwyno system lle mae pawb yn cael rhyddhad ardrethi busnes ac nad oes neb yn talu ardrethi busnes. Fel unrhyw fusnes, mae’n rhaid i fusnesau wneud penderfyniadau ynghylch maint eu safleoedd er mwyn deall yr hyn sy'n fforddiadwy iddyn nhw fel busnes.