<p>Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:03, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddatgan buddiant gan fod fy ngwraig yn radiograffydd yn PABM, ond ni fyddaf yn trafod cynhesrwydd nac oerni ei dwylo? Brif Weinidog, mae PABM mewn sefyllfa ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu. Mae’r ddwy ran o hynny yn dibynnu ar wasanaethau diagnostig. Rydym wedi gweld problemau gyda gwasanaethau diagnostig yn y gorffennol, gyda hyd rhestrau aros nad oedd yn dderbyniol i bawb o bosibl, ond a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Prifysgol PABM a'r staff, yn arbennig, sydd wedi gweld y rhestrau aros hynny yn dod i lawr mewn gwirionedd, ac felly rydym wedi gweld diagnosteg yn gwella yn PABM?