<p>Masnach Di-dariff </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

I mi, mae cytuno ar y pwynt sylfaenol hwnnw yn hanfodol cyn y gallwn symud ymlaen i unrhyw beth arall. Dyna'r sail—y bloc adeiladu—y gall unrhyw gytundeb gael ei adeiladu arno. Oni bai ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny, mae'n anodd iawn gweld cynnydd ar unrhyw beth arall.

Rwy'n sicr yn pryderu bod y DU yn awr yn cael ei gweld fel nad yw’n dymuno ymgysylltu â'r UE. Ceir problemau. Cyfarfûm â phrif gomisiynydd Gibraltar ddau ddiwrnod yn ôl—y pryder sydd gan Gibraltar yw y bydd Sbaen yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb o unrhyw fath gyda'r DU oni bai bod mater Gibraltar yn cael ei ddatrys er boddhad Sbaen. Mae'n gyfle i Sbaen nad oedd yno o'r blaen, cyfle y mae Brexit wedi ei ddarparu. Felly, mae llawer iawn o ffactorau yn dal i fod yn berthnasol yn y fan yma, rhai ohonynt nad ydynt wedi eu nodi eto.