Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, mae Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn ac mae hi wedi codi hyn ar gyfleoedd blaenorol. Rwy’n credu—wrth gwrs, mae cynigion y comisiwn ffiniau yn destun ymgynghoriad—y bydd yn cael effaith fawr o ran sut y bydd ein cymunedau yng Nghymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn mynegi ein barn o ran yr anfantais y gallai newidiadau arfaethedig ei hachosi. Wrth gwrs, mae'n effeithio ar y Cynulliad ac arnom ni fel Aelodau'r Cynulliad a chynrychiolwyr etholedig o ran sut y mae ein hetholwyr yn cael eu cynrychioli yn y Senedd. Wrth gwrs, bydd y materion hynny—o ran etholiadau’r Cynulliad—wedi eu cynnwys yn y Bil Cymru sydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd ac a ddylai ddod i rym o gyfnod y Pasg 2018, os bydd y Bil hwnnw yn dod yn gyfraith. Fodd bynnag, rwy'n credu bod y materion o ran cynrychiolaeth wleidyddol ac o ran —ac fe wnaethoch godi materion ynglŷn â’n cynrychiolaeth yn y Siambr hon—newidiadau i gynrychiolaeth seneddol ac Ewropeaidd hefyd, colli ASEau, ac ehangu yn sylweddol ein cyfrifoldebau hefyd o Ddeddf Cymru 2014, a’r newidiadau posibl yn sgil y Bil Cymru cyfredol, i gyd yn gwneud hwn yn faes teilwng a phwysig iawn ar gyfer dadl a thrafodaeth.