Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, wrth gwrs, mae barn y Prif Weinidog a barn Llywodraeth Cymru ar ryddid i symud wedi ei mynegi sawl gwaith, nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond gan Weinidogion eraill hefyd. Mae hwn yn fater difrifol iawn, mae'n fater sensitif, ac mae'n fater y mae’n rhaid i ni ei ystyried o safbwynt tegwch, cymesuredd, a gan gydnabod barn pobl yng Nghymru. Rwyf yn credu eich bod yn codi pwynt pwysig, ac, yn wir, mae'n bwynt pwysig yr ymatebodd y Prif Weinidog yn eglur iawn iddo yr wythnos diwethaf o ran y cwestiynau ar y materion hyn.