Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 27 Medi 2016.
Mae myfyrwyr o dramor yn gwneud cyfraniad uniongyrchol, gwerthfawr i’n prifysgolion ac i’r economi. Am bob pump myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn dod i Gymru, mae un swydd yn cael ei chreu, a daw £200 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn fy etholaeth i yn cydweithio efo 100 o bartneriaid mewn 20 gwlad yn Ewrop, efo llawer mwy o wledydd eraill ar draws y byd hefyd. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn helpu i gryfhau ein cysylltiadau efo gwledydd tramor, ac yn arf gwerthfawr i’n hymdrechion masnachu rhyngwladol. Ond, yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna ddyletswydd wrth gwrs, onid oes, ar y Llywodraeth yma i sicrhau a diogelu arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, cynllun Horizon 2020. Fe dderbyniodd prosiectau yng Nghymru tua £12 miliwn o gyllid o gronfa Horizon 2020 yn 2014 yn unig, ac mae Cymru hefyd wedi derbyn dros €140 miliwn o raglen fframwaith yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y rownd 2007-13, sef y ffrwd gyllido flaenorol ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Mae adroddiad Diamond yn tanlinellu pwysigrwydd y ffynonellau cyllid yma i brifysgolion Cymru. Rŵan, os wyf i’n deall yn iawn, polisi Llywodraeth Cymru ydy gadael i San Steffan benderfynu ar amodau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Canghellor y Trysorlys wedi cadarnhau y bydd arian o gynlluniau megis Horizon 2020 yn ddiogel hyd at y flwyddyn 2020. Ond, o gydnabod pwysigrwydd y pres yma i brifysgolion Cymru, pa ymdrechion a ydych chi yn bersonol wedi bod yn eu gwneud i sicrhau bod buddiannau ein prifysgolion yn cael eu diogelu yn y mater yma? Ac a fyddwch chi rŵan yn defnyddio’ch rôl chi o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau’r setliad gorau posib i’r sector addysg uwch yng Nghymru, yn sgil Brexit?