Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 27 Medi 2016.
Ddim eto. Yn ôl pob tebyg cyn bo hir, ond ddim eto. Rwy'n falch iawn gyda’r ffordd yr ydych wedi sefydlu hyn. Rydym wedi cael nifer o sgyrsiau, gyda Rhun, gyda Caroline, ymysg ein gilydd. Rwy'n falch iawn gyda'r ffordd gydweithrediadol yr ydych wedi mynd ati i roi sylw i hyn. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael ein cynnwys. Ond yn anad dim, rwy’n falch iawn am ddau beth. Un yw annibyniaeth absoliwt y cadeirydd, a'r ffaith bod y cadeirydd wedi cael profiad masnachol o redeg sefydliad sy'n canolbwyntio ar bobl, ac nid yw newydd ddod allan o’n cronfa fach ni o dalent yng Nghymru. Mae angen syniadau newydd, gwaed newydd a safbwynt newydd arnom, ac mae’r unigolyn hwn yn sicr yn dod â hynny i'r blaid.
Yr ail beth yr wyf yn eithriadol o falch o’i glywed yw eich bod yn gwneud llais cleifion yn thema gyffredinol ar gyfer yr adolygiad hwn. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae hyn i gyd yn ymwneud â’r cleifion. Maent yn gyntaf, yn ail ac yn olaf yn hyn. Ac rwy’n falch iawn, iawn o glywed mai nhw fydd y thema gyffredinol —nid yw’n mynd i fod yn aelodau'r panel yn unig, ond yr holl dystiolaeth a gymerwch. Felly, da iawn yn wir. Llongyfarchiadau. Rwy'n falch o hynny.
Roeddwn wrth fy modd o gael cwrdd ag Andrew Blakeman a chawsom sgwrs ddefnyddiol iawn. Dim ond un cwestiwn a ofynnais iddo nad oedd yn glir arno. Rwyf wedi gofyn iddo fynd yn ôl a gwirio’r cylch gwaith gyda chi. Mae'n dod o rai o'r achosion yr wyf wedi ymdrin â nhw yn fy etholaeth i, ac mae hynny’n ymwneud ag a fydd yn edrych ar fater cyd-ariannu ai peidio. Mae'n fater anodd iawn. Gall fod yn ddadleuol iawn. Ond, weithiau, pan wyf wedi ymdrin â chleifion sydd wedi bod yn daer i geisio cael gafael ar gyffur nad ydynt wedi gallu cael gafael arno—ac maent eisiau mynd drwy'r system claf annibynnol sydd gennym nawr—pan fyddant wedi cael na yn ateb, maent wedi gofyn weithiau, wedyn, a allant fynd i ffwrdd a gwneud mathau eraill o gyllido. Y cyfan yr oeddwn i eisiau ei wybod oedd p’un a yw’n mynd i edrych ar hyn ai peidio. Rwy’n amau nad ydyw, sydd yn iawn, ond roeddwn i eisiau'r eglurder hwnnw, oherwydd tynnais ei sylw at y ffaith fod hynny’n mynd i fod yn un o'r canlyniadau a ddaw allan o'r broses gyfan hon. Ac yn y pen draw bydd yn rhaid iddo fod yn faes lle bydd angen i chi fel Llywodraeth Cymru a'r GIG gael rhyw fath o linell glir iawn fel bod cleifion yn gwybod yn union lle maent yn sefyll.