Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch am y sylwadau hynny. Unwaith eto, rwy’n falch bod pob un o'r siaradwyr wedi teimlo y gallant ddod i mewn i'r Siambr a siarad am y ffordd yr ydym wedi ymdrin â'r mater hwn a chroesawu aelodaeth y grŵp. Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un ohonynt yr un mor gadarnhaol pan maent yn darparu eu hargymhellion. Er y bydd gennym faterion gwahanol i ymdrin â nhw ar adegau, mae’n rhaid i ni mewn gwirionedd wneud dewisiadau, gan nad yw hwn yn faes hawdd. Dyma beth wnaeth y grŵp adolygu blaenorol ei ganfod hefyd yn 2014—mae amrywiaeth o’u hargymhellion ar y pryd wedi eu gweithredu. Gwnaed cynnydd gwirioneddol, ond mae heriau gwirioneddol yn bodoli o hyd, a dyna pam yr ydym yn awr yn edrych ar hyn eto, ac rwy'n falch ein bod ni'n gwneud hynny.
O ran eich pwyntiau ynghylch mynediad ehangach at dechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddygaeth, rwy'n falch o gadarnhau bod canolbwynt newydd yn cael ei ddatblygu a fydd wedi’i leoli yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Bydd yn cyflwyno dull strategol a chenedlaethol o nodi, gwerthuso ac yna fabwysiadu technolegau newydd i leoliadau iechyd a gofal. Felly, nid yw'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar ei ben ei hun. O ran therapi pelydr proton, rydym yn mynd ati i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu capasiti a’i wneud yn fwy lleol yma yng Nghymru, ac, mewn gwirionedd, ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o fewn y sector preifat i sicrhau bod hynny’n digwydd.