Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dywedais pan aethom i'r afael â'r materion hyn y tro diwethaf cyn toriad yr haf y byddwn yn rhoi cyfle i Aelodau drafod siarter ddrafft y BBC yn amser y Llywodraeth pan fyddai’r siarter yn cael ei chyhoeddi. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y siarter wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 15 Medi, ac mae hwn yn gyfle i Aelodau fynegi eu barn ar y darpariaethau a gynhwysir yn y drafft hwnnw. Ond mae hefyd yn gyfle i mi fel Gweinidog, ac i eraill glywed, ond hefyd i wrando ar yr hyn sydd gan Aelodau i'w ddweud am y darpariaethau yn siarter y BBC.
Mae'r BBC yn un o’r sefydliadau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym yn y Deyrnas Unedig. Mae'n dod â ni at ein gilydd ac mae'n rhoi cyfle i ni weld ein hunain yn cael ein portreadu ar y sgrin, a hefyd i gael dadl a thrafodaeth a chael gwybodaeth am ein bywyd cenedlaethol. Mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion a chynrychiolwyr etholedig i gydnabod y rhan yr ydym yn ei chwarae wrth gefnogi a galluogi'r BBC i barhau i gyflawni'r swyddogaethau hyn. Drwy wneud hynny, mae hefyd yn bwysig, rwy’n credu, i ni gydnabod yr hyn sy'n iawn ac yn briodol i ni beidio â’i wneud hefyd. Nid yw'n iawn nac yn briodol i unrhyw wleidydd etholedig, yn fy marn i, gam-drin neu fwlio newyddiadurwyr y BBC am nad ydynt yn dilyn y llinell y byddai'n well gan rai ohonom iddynt ei dilyn; am nad ydynt yn sicrhau bod y BBC yn ddarlledwr y wladwriaeth yn hytrach na darlledwr cyhoeddus, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i bob un ohonom, beth bynnag yw ein barn breifat, sicrhau bod newyddiadurwyr y BBC ac uniondeb y BBC yn cael ei ddiogelu a'i gyfoethogi bob amser.
Y datganiad ysgrifenedig a ryddhawyd gennyf yr wythnos diwethaf oedd ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i’r siarter ddrafft hon a'r cytundeb fframwaith. Yr hyn a geisiais ei wneud yn y datganiad hwnnw oedd nodi'r meysydd hynny lle y mae'r siarter wedi’i gwella'n sylweddol, fel ei bod yn gorchymyn y BBC i ddarparu mwy ar gyfer Cymru ac yn galluogi pobl Cymru drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn—a’r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na Llywodraeth Cymru—i ddwyn y BBC ac Ofcom i gyfrif mewn modd mwy llym. Mae'r rhain yn faterion yr ydym wedi eu trafod yn y lle hwn am rai blynyddoedd.
Mae'n amlwg bod yna rai materion na phenderfynwyd arnynt hyd yma y byddem yn dymuno eu datrys cyn i'r siarter gael ei chwblhau. Ddoe, cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon a chawsom, yn fy marn i, gyfarfod da iawn i drafod ein gweledigaethau gwahanol, weithiau, ond gweledigaethau a rennir ar gyfer dyfodol y BBC. Rwy'n hyderus iawn y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gweithio gyda'i gilydd i sicrhau’r darpariaethau a fydd yn galluogi'r BBC i wasanaethu poblogaeth gyfan y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru.
Rydym wedi, wrth gwrs, cymryd rhan yn llawn yn y broses o adolygu’r siarter dros y misoedd diwethaf. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y gwnaethom gytuno arno y llynedd yn nodi sut y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC a Gweithrediaeth y BBC yn parhau i gydweithio a gweithio ar y materion hyn. Nid yw'r siarter ddrafft a'r cytundeb fframwaith yn cynnwys popeth yr ydym ni a gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi galw amdano am ystod ein trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y byddem yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw heb ein mewnbwn uniongyrchol i'r adolygiad o’r siarter yn ystod y misoedd diwethaf. Yr oeddwn yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol am gywair ei gohebiaeth ag Aelodau yn y fan yma wrth fynd i'r afael â'r materion hynny a mynd i'r afael â'r berthynas waith rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae ein cyfraniad at y broses adolygu siarter wedi bod yn hanfodol ac, yn fy marn i, mae wedi sicrhau bod buddiannau Cymru wedi’u gwarchod yn dda.
Mae'r siarter yn rhoi pwrpas cyhoeddus cryfach o lawer i’r BBC—i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol Cymru a chenhedloedd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid iddi yn awr gefnogi economïau creadigol ar draws y DU hefyd, gan gynnwys y diwydiannau creadigol ffyniannus sydd gennym yma yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gallwn ddisgwyl mwy o gynnwys a rhaglenni, a chynnwys a rhaglenni gwell, wedi’u cynhyrchu ar gyfer Cymru, am Gymru ac yng Nghymru, ar draws y BBC gyfan.
Rwy'n falch iawn bod y siarter yn rhoi ymrwymiad o'r newydd i wasanaethau yn y Gymraeg hefyd. Mae'r cytundeb fframwaith sy'n cyd-fynd â’r siarter yn ailddatgan partneriaeth y BBC ag S4C, sy’n ‘cydweithio i gadw a diogelu annibyniaeth y ddwy'.
Mae hefyd yn darparu setliad ariannol cryf mewn cysylltiad â’r elfen o gyllid S4C sy’n dod o ffi'r drwydded, sy'n gwbl hanfodol os yw'r annibyniaeth i gael ei diogelu yn y dyfodol ac os yw'r annibyniaeth honno yn mynd i fod yn annibynniaeth ystyrlon.
Er bod y setliad yn darparu sefydlogrwydd ariannol i S4C hyd at 2022, mae'r ffaith nad oes cynnydd yn y cyllid a dim lwfans ar gyfer chwyddiant yn golygu y bydd y sianel yn wynebu heriau sylweddol yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd y ddau beth hyn i S4C ac mae wedi bod yn glir ynghylch yr angen i ddiogelu annibyniaeth S4C ac i sicrhau ei sefyllfa ariannol. Felly, byddaf yn gofyn i Aelodau gefnogi gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Byddwn ni, dylwn i ddweud, yn cefnogi bob un o'r gwelliannau i'r cynnig y prynhawn yma.
Rwyf yn croesawu bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, sydd yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gwthio amdano’n barhaus ac yn rhywbeth y mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu y dylai ddigwydd bob pum mlynedd. Yn ein barn ni, dylai hyn fod wedi ei gynnal ochr yn ochr â'r adolygiad o siarter y BBC, yn hytrach nag ar ei ôl, ond rydym yn cydnabod y sefyllfa bresennol. Byddem wedi hoffi gweld adolygiad ehangach, mwy sylfaenol o anghenion Cymru o ran darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Fodd bynnag, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o S4C, yr ydym yn gobeithio ac yn disgwyl iddo gael ei gynnal y flwyddyn nesaf, yn gynhwysfawr ac yn cryfhau S4C yn y dyfodol.
Fy mhryder, Ddirprwy Lywydd, wrth edrych ar y siarter ddrafft a'r cytundeb fframwaith oedd y byddai'n adlewyrchu'r ymrwymiadau y mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi eu gwneud yn ei lythyr at y Prif Weinidog ar 12 Mai, ac sydd wedi’u trafod yn y lle hwn ar achlysuron blaenorol. Mae hyn yn cynnwys cydnabod bod yn rhaid i'r portread a’r gynrychiolaeth o Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill wella. Rydym hefyd yn cefnogi'r bwriad i gael golygydd comisiynu drama sy'n gyfrifol am bob cenedl ac rydym yn gwbl ffyddiog y bydd hyn yn digwydd, o ystyried datblygiad Caerdydd fel canolbwynt drama’r BBC.
Mae Arglwydd Hall hefyd wedi gwneud nifer o addewidion cyhoeddus pwysig i Gymru, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwella gwasanaethau ac ar gyfer cynnwys mwy pwrpasol. Rwy'n fodlon bod cenhadaeth y BBC, ei dibenion cyhoeddus a’i chylch gwaith creadigol yn cael eu cryfhau yn sylweddol yn y siarter ddrafft, gan roi gorchymyn clir ac effeithiol i’r BBC i ddarparu llawer mwy i Gymru. Felly, rwyf yn edrych ymlaen at weld ymrwymiadau'r Arglwydd Hall yn cael eu cyflwyno’n llawn. Gadewch i mi ddweud beth yr wyf yn ei olygu wrth hynny: rydym yn deall bod BBC Cymru a hefyd y BBC ar draws y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi targedau ar gyfer gwneud arbedion. Rydym yn disgwyl—ac rwy’n credu mai’r bwriad a nodwyd gan yr Arglwydd Hall oedd—y dylai'r cyllid ychwanegol fod yn ychwanegol, yn gynnydd net ac nid dim ond yn lle rhai o'r arbedion y galwyd amdanynt. Ac mae hynny’n arwydd pwysig o uniondeb yr addewidion a wnaed gan y BBC. Rydym yn disgwyl gallu credu yn addunedau’r BBC heb eu cwestiynu, a heb archwilio’r print mân, efallai. Felly, rydym ni yn disgwyl gweld yr adnoddau ychwanegol net hyn yn cael eu cyflwyno i BBC Cymru dros y cyfnod sydd i ddod.
Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd Ken MacQuarrie, a benodwyd yr wythnos diwethaf yn gyfarwyddwr gwledydd a rhanbarthau y BBC, yn arwain ar ymdrech ragweithiol a phwrpasol ar y cyd i gefnogi BBC Cymru Wales i gyflawni dros Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill.
Yn ei chynlluniau blynyddol, bydd yn rhaid i’r BBC yn awr nodi sut y bydd yn cyflawni ei dyletswyddau newydd, gan gynnwys gwella gwasanaethau i Gymru. Mae'n ofynnol iddi adrodd yn fanwl ar ba mor dda y mae'n cyflawni yn erbyn y cynlluniau hyn a bydd Ofcom yn gallu rheoleiddio i sicrhau bod y BBC yn gwneud mwy os yw’r nodau y mae'n eu gosod i’w hunan yn annigonol neu os nad yw’n llwyddo i’w cyflawni. Yn hanfodol, bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr hefyd bwerau i graffu ar y BBC, i’w galw i ymddangos gerbron pwyllgorau ac i’w dwyn i gyfrif yn uniongyrchol, sy’n rhywbeth, nad oedd gan neb ond Senedd y DU yr hawl i’w wneud yn y gorffennol. Mae'n iawn ac yn briodol bod pob un o Seneddau’r Deyrnas Unedig yn chwarae rhan wrth ddwyn ein sefydliadau yn y DU i gyfrif, ac mae’n rhaid i’r Senedd hon chwarae ei rhan yn hynny o beth hefyd. Rwy'n credu mai un o'r materion hollbwysig y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef fel seneddwyr yw bod atebolrwydd rhyng-sefydliadol yn cryfhau’r Deyrnas Unedig ac yn cryfhau sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Rwy’n gobeithio y bydd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn hytrach nag i’r Llywodraeth hon, ac rwy’n credu y bydd hynny'n gam pwysig ymlaen.
Bydd gan fwrdd newydd y BBC aelod anweithredol dros Gymru, a’i swyddogaeth fydd sicrhau bod y BBC yn deall buddiannau Cymru ac yn gweithredu arnynt o’r cychwyn cyntaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y broses o recriwtio’r aelod hwnnw i Gymru, ac yn awr mae angen ein cydsyniad ni cyn y gellir gwneud y penodiad hwnnw. Felly, bu gwir gynnydd ar nifer o faterion pwysig.