Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch. Mae'r siarter frenhinol ddrafft a chytundeb fframwaith drafft y BBC yn cyrraedd ar adeg pan fydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Llywodraeth bellach swyddogaeth ymgynghori ffurfiol o ran y BBC a'i dyfodol. Felly, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn defnyddio'r swyddogaeth hon, a grëwyd yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth diweddar, er mwyn sicrhau bod llais Cymru a phryderon cynulleidfaoedd Cymru yn cael eu clywed wrth wraidd y Llywodraeth ac yma yn y Senedd. I raddau helaeth, caiff hynny ei gydnabod yn y penderfyniad diweddar i greu’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd. Rwy’n falch o fod yn Gadeirydd arno, ond mae hefyd yn cyflwyno cyfrifoldeb newydd a phwysig i graffu’n llawn ar sut y caiff y BBC ei hariannu, yn ogystal â sut y mae’n darparu ei gwasanaethau yma yng Nghymru. A gan ein bod nawr wedi crybwyll yr Aelod dros Gymru ar y bwrdd, rwy’n siŵr bod hynny’n rhywbeth y gallwn ni, fel pwyllgor, ei drafod ymhellach—mae'n digwydd gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roeddwn i yn un o’r Aelodau Cynulliad a benododd yr archwilydd cyffredinol blaenorol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y gallwn ni osod cynsail ar ei gyfer gyda’r pwyllgor newydd hwn.
Ond mae'r siarter wedi dod ar adeg pan fo'r ddadl ynghylch sut y mae bywyd yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu gan y BBC, ynghyd â'i bortread ar draws y rhwydwaith, yn dod i'r amlwg unwaith eto. Bydd fy mhwyllgor i yn falch o gael cynnal proses graffu gyda Tony Hall, yn ogystal â BBC Cymru, fel eu bod yn gallu ein hateb yn uniongyrchol ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud yma yng Nghymru. Fel y dywedodd y Gweinidog, rydym wedi derbyn ymrwymiad o gyllid ychwanegol ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond, hyd yma, nid ydym wedi cael unrhyw fanylion penodol ynghylch yr arian hwnnw, ac mae'n rhaid i ni fod yn sicr—mae’n rhaid i ni fod yn sicr—fel y dywedodd y Gweinidog, fod hwn yn ychwanegol at yr hyn y bydd Cymru yn ei gael, nid wedi’i greu o’r arbedion y mae’n rhaid i BBC Cymru ddod o hyd iddynt yn ffi'r drwydded ar hyn o bryd.
Felly, mae sicrhau bod gan Gymru bresenoldeb ystyrlon ar y BBC wedi cael hwb newydd ers i’r gorfforaeth golli un o’i rhaglenni blaenllaw yn ddiweddar—rwy'n siwr y bydd rhai ohonoch wedi cael llond bol o glywed amdani erbyn hyn—'The Great British Bake off'. Rwyf yn ei gwylio weithiau, ond nid oes gen i’r un obsesiwn â rhai pobl, ond mae wedi gwneud i lawer o bobl feddwl. Os na all fforddio i ddal gafael ar rywbeth sydd wedi tyfu yn rhan annatod o arlwy’r BBC, a all felly barhau i fod yn bopeth i bawb, neu wedyn bod mewn perygl o golli cynulleidfaoedd, gan eu gwthio oddi wrth y BBC? Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef ar gyfer Cymru hefyd.
Rydym wedi mynd i mewn—