Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, yn enwedig yr Aelodau hynny a gyflwynodd eiriau caredig a hael.
A gaf i ddweud, gan ddilyn yn uniongyrchol yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, fy mod yn credu ei fod yn llygad ei le o ran bod yn rhaid i’r lle hwn dderbyn ein cyfrifoldebau a rhai o’r cyfrifoldebau newydd hynny—y pwyntiau a wnaethpwyd gan Suzy Davies a Neil Hamilton—o ran mynd i'r afael â'r cyfrifoldeb o greu atebolrwydd? Mae'n ffordd wahanol a newydd iawn o weithio, ac mae'n gyfle gwych i’r lle hwn wneud y gwahaniaeth hwnnw. Rwy'n falch iawn o weld Bethan Jenkins yn Gadeirydd y pwyllgor, ac rwy'n gwybod y bydd yn ceisio sicrhau bod y BBC ac eraill yn cael eu dwyn i gyfrif. Mae Suzy Davies yn ofni y gallai’r BBC wrthod ateb cwestiynau. Wel, hoffwn i ddim bod y cynrychiolydd hwnnw o’r BBC gerbron pwyllgor ac yn gwrthod ateb cwestiynau, ac efallai y byddai hynny yn dweud mwy na’r atebion gwirioneddol y byddai efallai yn eu rhoi.
Mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn newid, fel y dywedodd Lee Waters, y diwylliant o fewn y BBC. Cytunaf yn llwyr â'r dadansoddiad gan fy ffrind o Lanelli, bod diwylliant metropolitan yn y BBC sy'n credu mai nhw sy’n gwybod orau o ran y Deyrnas Unedig gyfan. Nid yw hynny'n iawn, nid yw'n deg, ac mae'n rhaid iddo newid. Mae sut byddwn yn creu newid yn gwestiwn i bob un ohonom. Oherwydd, drwy atebolrwydd, drwy drafod a dadlau, y gallwn helpu’r BBC i wneud y newidiadau hynny. Rwyf eisiau gweld amgylchedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus cyffrous a bywiog ledled y Deyrnas Unedig—sy'n cynrychioli pob un ohonom, lle bynnag yr ydym yn digwydd byw, boed yn Nhredegar neu Langefni neu rywle arall. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni a'n bywydau yn cael ein portreadu ar holl wasanaethau’r BBC. Ni allem ddychmygu saith diwrnod o ddarlledu gan y BBC heb weld Lloegr ar ein sgrin. Sut gwnaethon nhw ymdopi am saith mlynedd heb Gymru? Nid yw'n iawn, mae'n amhriodol, mae wedi digwydd, ac ni cheir caniatáu iddo ddigwydd eto—ac ni chaiff ddigwydd eto oherwydd bod gennym y prosesau a'r dulliau atebolrwydd ar waith. Mae'r atebolrwydd a oedd ar waith a ganiataodd y methiannau hynny yn amlwg wedi methu. Mae’r strwythur llywodraethu wedi methu, mae’r strwythur rheoli wedi methu, ac mae’r strwythur atebolrwydd wedi methu. Ni cheir caniatáu iddo fethu eto. Mae’n rhannol yn gyfrifoldeb arnom ni yn y Siambr hon, yn y senedd hon, i sicrhau nad yw'n methu eto.
Mae’r diben cyhoeddus wedi ei atgyfnerthu o ran y siarter newydd. Credaf y bydd adroddiadau pwyllgor yn cael effaith sylweddol os bydd yr adroddiadau pwyllgor hynny wedi’u seilio ar y dystiolaeth y mae wedi’i chasglu. Ond mae'n bwysig, a hon yw’r her i bob un ohonom o holl sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig, ond i’r BBC hefyd. Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan Lee Waters. Mae’r BBC wedi bod yn rhoi addewidion i ni yn rhy hir. Ers gormod o amser, rydym wedi ein gwahodd i dderbyniadau gydag uwch reolwyr y BBC lle y clywyd geiriau caredig. Yr hyn yr ydym ni’n ei ddymuno erbyn hyn yw gweithredu, rydym eisiau gweld canlyniadau ac rydym eisiau gweld newidiadau. Ac mae'n iawn ac yn briodol bod hynny'n dechrau gyda'r buddsoddiad o £30 miliwn sydd wedi ei ddisgrifio eisoes y prynhawn yma. Mae'r materion ariannu sy'n amddiffyn S4C, fel y nodwyd gan Neil Hamilton yn y ddadl hon, yn gwbl hanfodol i’w hannibyniaeth ac yn rhai y byddwn yn sicr yn parhau i roi sylw iddynt, o ran yr adolygiad canol tymor o'r siarter, ac o ran yr adolygiad o S4C. Ac rwyf yn gobeithio, drwy wneud y newidiadau hyn i strwythurau atebolrwydd, drwy ddod â rhagor o bobl i mewn i strwythurau atebolrwydd, y byddwn yn newid y diwylliant yn y BBC, a fydd yn golygu bod y cynnyrch yr ydym yn ei weld ar ein sgrin a'r gwahanol wasanaethau sydd ar gael, eu hunain yn cael eu newid yn y dyfodol. Mae hynny'n her i bob un ohonom, a chredaf fod y lle hwn a'n sefydliadau yn barod am yr her honno. Diolch yn fawr iawn.