Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 28 Medi 2016.
Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud taliad i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain, lle mae llawer o Gymry’n gweithio ac yn awyddus i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Rydym yn gwybod bod addysg yn hanfodol i sicrhau bod targedau cyffrous a manwl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â siaradwyr Cymraeg—. Os ydym am eu cyrraedd, mae angen i ni ganolbwyntio ar addysg ac rydym eisiau gallu cefnogi hynny lle bo’n ymarferol bosibl, ac yn yr achos hwn rydym yn ei gefnogi yn Llundain.