Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, Oscar. Rydym wedi gweld gwelliant parhaus eleni ar draws pob pwnc yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Cafwyd gwelliannau hefyd mewn mathemateg a’r dangosydd cyfnod sylfaen cyffredinol yn y cyfnod sylfaen. Mae’r gwelliannau hyn yn dangos effaith gadarnhaol barhaus ein ffocws ar wella safonau a chanlyniadau i ddisgyblion.