<p>Lefelau Cyrhaeddiad yng Nghyfnodau Allweddol 1 i 3</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:57, 28 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Oscar. Er mwyn bod yn glir, ac er mwyn ei gofnodi, mae gwelliannau eleni yn dangos ein canlyniadau gorau erioed ar gyfer diwedd cyfnod allweddol 2, ac mae canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 3 hefyd wedi gwella. Rydym yn croesawu’r newyddion fod y bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched wedi culhau yn y rhan fwyaf o bynciau yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ac mae mwy o welliant eto yn y rhan fwyaf o bynciau uwchlaw’r lefel ddisgwyliedig ym mhob un o feysydd dysgu’r cyfnod sylfaen. Felly, mae’r bwlch rhwng bechgyn a merched yn cau, ond mae’n un sy’n dal i fodoli. Nid ffenomen sy’n effeithio ar Gymru yn unig yw hon, ond ffenomen sy’n effeithio ar hyd a lled y DU. Yn wir, yng ngorllewin Ewrop, ceir bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio strategaethau penodol mewn ysgolion penodol i fynd i’r afael ag anghenion dysgwyr sy’n fechgyn. Mae’n arbennig o amlwg yn achos disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, ac rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio’r grant amddifadedd disgyblion i allu creu cyfleoedd a chwricwlwm a phrofiad er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb yn y bechgyn ifanc hyn yn eu haddysg ysgol.