<p>Ymgorffori Hyfforddiant Iaith Gymraeg â Chymwysterau Galwedigaethol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:05, 28 Medi 2016

Diolch am yr ymateb hynny. Rwy’n falch o glywed hynny, ond rwyf wedi cysylltu’n ddiweddar â chwmni Ynni Cymru, sydd wedi derbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru, a byddai’r cymorth yn cynnwys cyngor ar gymwysterau galwedigaethol defnyddiol. Nid oes gan y cwmni bolisi iaith Gymraeg, na dealltwriaeth o uchelgeisiau eich Llywodraeth chi ar gyfer gwella dwyieithrwydd yn y gweithlu. Pan ofynnais i am hynny, cefais yr ymateb, ‘Wel, mae gyda ni rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg rhywle yn ein busnes’. Collodd y pwynt yn llwyr.

Byddwn i’n disgwyl i gwmni o’r fath o leiaf gynghori busnesau newydd y dylen nhw gadw mewn cof bod llygaid y Llywodraeth ar y Gymraeg yn y gweithlu, ac i’w hannog i ystyried sut y gallent ddarparu hynny. O ran yr iaith Gymraeg, beth yw eich disgwyliadau chi o unrhyw sefydliad a gefnogwyd gydag arian Llywodraeth Cymru sy’n honni eu bod yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol neu gymorth busnes?