<p>Bwlio Homoffobig, Deuffobig a Thrawsffobig mewn Ysgolion </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:11, 28 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Hannah. Rwyf am ei gwneud yn glir na fyddaf yn goddef unrhyw fwlio yn y system addysg yng Nghymru. Rwy’n disgwyl y bydd ysgolion a gwasanaethau addysg yn ei gwneud yn glir fod pob math o fwlio yn hollol annerbyniol ac yn mynd ati’n egnïol i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau, gan sicrhau bod y disgyblion yn cael eu cefnogi’n briodol.