Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 28 Medi 2016.
Bydd yr Aelodau’n deall bod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, sy’n bodoli i ddiogelu cyfrinachedd fy rôl fel cynghorydd cyfreithiol. Felly, er nad wyf yn gallu dweud a wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, gallaf yn sicr ddweud wrthych ei bod yn gynnar iawn, ac nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd o gwbl eto ar unrhyw fater. Ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ynglŷn ag amseriad a thelerau ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac ynglŷn â ffurf ein perthynas ag Ewrop yn y dyfodol.