Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch. Yn y Cynulliad diwethaf, tynnodd dau o’r pwyllgorau—y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Pwyllgor Menter a Busnes—sylw at bwysigrwydd datblygu cynllun morol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar gynllun drafft yn ddiweddarach eleni, cynllun a fydd yn arloesol ar gyfer Cymru ac a fyddai’n sicrhau ein bod yn diogelu ein hamgylchedd naturiol eithriadol. Wrth adael yr UE, bydd pysgodfeydd ac adnoddau morol naturiol Cymru yn dod o dan y chwyddwydr. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gweithrediad y cynllun yn gallu gwrthsefyll craffu cyfreithiol?