<p>Amddiffyn Adnoddau Morol Naturiol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:25, 28 Medi 2016

Rwy’n falch o glywed bod y Cwnsler Cyffredinol yn mynd i Hwlffordd ac yn teithio i’r gorllewin. Os caf i ofyn iddo fe: bydd e’n ymwybodol, mae’n siŵr, bod datblygu’r cynllun morol a nifer o ardaloedd cadwraeth yn y môr yn deillio’n uniongyrchol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Rwy’n credu ei bod hi’n hynod bwysig bod deddfwriaeth o’r fath yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae nifer o bobl yn awgrymu bod y ddeddfwriaeth yna ar fin cael ei thorri gan y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn brydlon i’r ddeddfwriaeth honno. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol, felly, roi gwarant i’r Cynulliad nad ydym mewn unrhyw beryg o wynebu gweithredoedd ‘infraction’ gan y Comisiwn Ewropeaidd?