Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 28 Medi 2016.
Mae’n flin iawn gen i fy mod i ddim wedi gosod cwestiwn, ond mae gen i ddau gwestiwn beth bynnag, mae’n ymddangos. Roeddwn i’n gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol, gan fod y cynllun morol a’r ddeddfwriaeth arall mae’r Llywodraeth yn ei hwynebu yn deillio, yn y lle cyntaf, o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a gan ein bod ni eisoes yn hwyr, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, yn y dydd yn gweithredu’r cynlluniau yma, a oes unrhyw beryg y bydd y Comisiwn Ewropeaidd—beth bynnag am ganlyniad y refferendwm—a oes unrhyw beryg y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth Cymru gan fod y ddeddfwriaeth yma’n hwyr yn y dydd yn cyrraedd? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol warantu nad yw’r Llywodraeth yn wynebu unrhyw fath o weithredu ‘infraction’ gan y Comisiwn Ewropeaidd?