Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 28 Medi 2016.
Nid ydym wedi derbyn unrhyw beth yn awr, nac ydym? Mae hynny’n iawn. Iawn, diolch. Ni dderbyniwyd dim, felly symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda ar gyfer pleidleisio arni, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhaglen lywodraethu. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os derbynnir y cynnig hwn, byddwn wedyn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, yn erbyn 34. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a phleidleisiwn ar welliant 1.