Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym i gyd am weld pobl hŷn yn cael y gofal gorau posibl. Fodd bynnag, yma yng Nghymru, fel mewn mannau eraill yn y DU, mae gennym fom sy’n tician ym maes gofal cymdeithasol, a chyn iddo ffrwydro, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cael trafodaeth onest a heriol ynglŷn â sut ddyfodol sydd i ofal yng Nghymru a sut rydym yn mynd i dalu amdano. Fel arall, rydym mewn perygl o wynebu argyfwng cymdeithasol na welsom ei debyg yn y wlad hon ers dyddiau’r wyrcws.
Nawr, mae hon yn her i ni i gyd; mae’n her i’r Cynulliad, i Lywodraeth Cymru ac i bobl Cymru. Ond yn hytrach na gweld hyn fel problem, rwy’n credu bod angen i ni ei weld fel cyfle. Yr hyn yr hoffwn ei awgrymu heddiw yw ein bod yn cychwyn y drafodaeth ar sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru—gwasanaeth a fydd, ymhen amser, yn dod i gael ei garu a’i barchu lawn cymaint â’n gwasanaeth iechyd gwladol, ond gwasanaeth a fydd yn rhan annatod o’r gwasanaeth iechyd ac yn gweithio ar y cyd ag ef. Mae arnom angen fframwaith cyffredinol, lle bydd pobl yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn derbyn gwasanaeth o ansawdd sy’n gyson ar draws Cymru gyfan.
Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n drawsbleidiol a thrawsadrannol, a’n bod yn datblygu consensws rhwng y cenedlaethau. Mae angen i ni ystyried model ariannu newydd sy’n datblygu cydbwysedd teg rhwng y wladwriaeth a’r unigolyn. Mae angen i ni ailfeddwl ein polisi adeiladu i ddarparu ar gyfer yr henoed, rhywbeth a allai hyrwyddo datblygiad economaidd yn ein cymunedau. Ond yn bennaf oll, mae angen i ni ddatblygu parch newydd a dwfn at y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth hanfodol hwn a rhoi iddynt yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ariannol y maent eu hangen ac yn eu haeddu.
Y ffaith yw bod disgwyliad oes, pan sefydlwyd y GIG gan y Llywodraeth Lafur yn 1948, yn 66 oed i ddynion ac yn 71 oed i fenywod. Nawr, roedd y dynion hyn druain yn ymddeol o’u gwaith yn 65 oed, felly roeddent yn lwcus os oeddent yn byw am flwyddyn.
Yn awr, rydym yn byw i mewn i’n hwythdegau a gall plant sy’n cael eu geni heddiw ddisgwyl byw nes eu bod yn 100 oed. Ond gyda phobl yn byw’n hwy ac yn goroesi gyda chyflyrau mwy cymhleth, mae angen gofal a chymorth mwy arbenigol. Mae gwasanaethau gofal yn cael trafferth ymdopi ac mae’r wladwriaeth yn cael trafferth talu amdano.
Mewn adroddiad ar ôl adroddiad nodwyd bod angen gwneud rhywbeth. Mae’r goleuadau ambr wedi bod yn fflachio ers amser hir, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych eu bod ar fin troi’n goch. Ni allwn wadu tystiolaeth ystadegau diweddar sy’n ein rhybuddio bod y system bresennol yn anghynaliadwy. Ym mis Awst yn unig, cofnodwyd bod dros 455 o gleifion wedi wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru.
Mae’r sefyllfa’n mynd i waethygu. Mae rhagolygon poblogaeth Cymru yn rhagweld cynnydd dramatig yn nifer y bobl dros 85 oed yn ystod y 25 mlynedd nesaf, a disgwylir y bydd y niferoedd yn codi o 80,000 i dros 180,000. Mae hynny’n cyfateb i’r holl bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Ein ffrindiau yw’r rhain, aelodau o’n teuluoedd, ein hanwyliaid, ac mae’n ddyletswydd arnom i ofalu amdanynt.
Gwariwyd bron £300 miliwn ar edrych ar ôl ein henoed yng Nghymru yn 2013. Erbyn y byddaf yn 85 oed, bydd angen i ni fod yn gwario bron £1 biliwn. Mae hynny’n cyfateb i 7 y cant o gyllideb Cymru gyfan. Bydd ein polisi Llafur yn sicrhau bod y wladwriaeth yn cyfrannu tuag at gost gofal os yw cynilion unigolyn yn disgyn o dan y trothwy o £50,000. Disgwylir i’r rhai sydd â chyfalaf sy’n uwch na’r swm hwn dalu costau llawn eu gofal. Nawr, nid yw gofal yn rhad. Ar draws Cymru, mae awdurdodau lleol yn talu £450 i £500 yr wythnos ar gyfartaledd am ofal preswyl a £500 am ofal nyrsio. Gall y rhai sydd â gofynion ychwanegol ddisgwyl talu mwy na hynny hyd yn oed. Nawr, os oes angen i rywun fynd i gartref gofal, yr amser cyfartalog y bydd unigolyn yn ei dreulio yno yw ychydig dros ddwy flynedd a hanner, gan arwain at gostau o dros £75,000. Mae hyn yn llawer mwy na’r pot pensiwn cyfartalog a’r cap ar gyfraniad oes ar £35,000 a argymhellwyd gan Dilnot. Caiff menywod eu taro’n arbennig o galed, gan eu bod dros ddwywaith yn fwy tebygol o fod angen gofal hirdymor a thros ddwywaith yn fwy tebygol o ymddeol heb eu potiau pensiwn eu hunain. Diolch i lywodraeth leol yng Nghymru—maent wedi capio cyfraniadau gofal cartref wythnosol ar £60. Felly, mae hynny’n golygu bod gofal cartref yn fwy fforddiadwy yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, lle nad oes cap. Ond gyda’r newidiadau demograffig hyn a ragwelir, bydd rhaid wynebu rhai cwestiynau eithriadol o anodd.
Ac mae yna oblygiadau economaidd, nid yn unig i’r henoed, ond i rai sydd â pherthnasau sy’n heneiddio. Gyda mwy o bobl yn gadael swyddi neu’n gweithio llai er mwyn ysgwyddo’r cyfrifoldebau gofal hynny, mae ein heconomi yn dioddef. Yr her yw sut i adeiladu system sy’n deg i bob cenhedlaeth. Mae llawer o bobl hŷn, er nad i gyd wrth gwrs, wedi elwa ar y cynnydd enfawr ym mhrisiau tai. Nid oedd rhaid i lawer ohonynt dalu am addysg bellach ac uwch. Roedd gan lawer swydd am oes a phensiynau wedi’u diogelu rhag chwyddiant. Yn y cyfamser, ni fydd y genhedlaeth nesaf sydd, drwy eu gwaith a threthi, yn talu costau gofalu am eu henoed, byth yn gallu fforddio tŷ eu hunain. Bydd llawer yn wynebu dyledion myfyrwyr sylweddol neu’n byw ar gontractau dim oriau. Mae ein poblogaeth sy’n heneiddio’n gynyddol yn golygu bod nifer cynyddol o bobl hŷn yn mynd i gael eu cynnal gan lai o drethdalwyr iau. Er y gall hyn ymddangos yn annheg, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith fod gwahaniaethau ariannol o fewn y cenedlaethau yr un mor fawr â’r rhai rhwng y cenedlaethau. Felly, mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn: a ydym yn meddwl ein bod i gyd yn haeddu’r un gofal a chyfleoedd, pa un a ydym yn neiniau a theidiau neu’n wyrion?
Mae gan Gymru broblem ychwanegol. Rydym yn byw mewn gwlad brydferth gyda rhagolygon deniadol i’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd ymddeol rhatach o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ac maent yn dod, yn eu miloedd. Nawr, gadewch i mi fod yn glir, rwy’n croesawu’r ffaith fod pobl yn awyddus i ymddeol yma, ond yn y tymor hwy, a allwn roi llaw ar ein calon a dweud y gallwn dalu am unrhyw un sy’n cyrraedd heb unrhyw fecanwaith i gynllunio ar eu cyfer yn ariannol? Er bod yn rhaid i ni dderbyn eu bod o bosibl wedi talu’n hael i mewn i system drethi cyffredinol y DU, mae angen i ni a hwythau ddeall bod talu am gartrefi gofal yn dod o gyllideb awdurdod lleol—pot gwahanol. Felly, bydd i ba raddau y gall y wladwriaeth gefnogi’r henoed yng Nghymru yn dibynnu ar ba mor denau rydym yn taenu’r jam.
Mae angen i ni ystyried o ddifrif yr angen i ddatblygu system sy’n fwy seiliedig ar gyfraniadau, ond un sy’n sicrhau bod y rhai nad ydynt yn gallu hunanariannu hefyd yn cael eu diogelu gan roi cymhellion i’r rhai sy’n gweithio i gynilo a chyfrannu. Mae’r rhain yn faterion anodd a sensitif iawn ac nid ydynt yn hawdd eu datrys. Ond fe allem ac fe ddylem gychwyn trafodaeth ynglŷn â sut y gallai system o’r fath weithio.
I ba raddau y dylem ddisgwyl i bobl ryddhau ecwiti o’u cartrefi, prynu yswiriant a rhyddhau cronfeydd pensiwn? Ac ydw, rwy’n mynd i ddweud yr hyn na ellir ei ddweud: a ddylem ystyried treth newydd i Gymru i dalu am hyn gan fod gennym bwerau i wneud hynny yn awr? Nid oes yr un ohonom yn gwybod pa ofal fydd ei angen arnom yn y dyfodol, felly mae angen i ni ofyn a oes angen i ni, fel cymdeithas, gydrannu’r risg fel rydym yn ei wneud gyda gofal iechyd.
Wrth edrych ymlaen, mae angen i ni feddwl am bolisïau adeiladu a chynllunio tai gyda’r henoed ar flaen ein meddyliau. A allai hwn fod yn gyfle i hyrwyddo datblygiad economaidd yn ein cymunedau? A allem ystyried cyflwyno rhaglenni adeiladu ar y cyd â cholegau a chynlluniau prentisiaeth? Gadewch i ni ddatblygu sgiliau ein bricwyr, trydanwyr a phlymwyr lleol ac adfywio gweithlu Cymru. Mae deall lefel y galw am wasanaethau gofal yn y dyfodol a’r costau cysylltiedig yn hanfodol wrth gynllunio ar gyfer system gofal cymdeithasol effeithlon a theg, ac o ystyried y pwysau presennol ar y GIG, rhaid i ni ymdrechu lle bynnag y bo modd i symud oddi wrth ofal costus, ymatebol sy’n seiliedig ar welyau a thuag at ofal sy’n ataliol, yn rhagweithiol, ac yn canolbwyntio lawn cymaint ar iechyd ag ar ymateb i salwch. Dylem edrych ar enghreifftiau o wledydd eraill fel yr Iseldiroedd, lle mae myfyrwyr yn cael cynnig llety am ddim yn gyfnewid am yr amser a dreuliant gyda phobl hŷn. A allem ninnau hefyd ddatblygu cynllun gwirfoddol wedi’i noddi gan y wladwriaeth i gynorthwyo gyda mân dasgau megis newid bylbiau golau neu helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd? Mae Gofal Solfach yn fy etholaeth i yn enghraifft wych.
Mae angen i ni hefyd sicrhau bod parch priodol yn cael ei ddangos tuag at y rhai sydd yn y proffesiwn gofal. Mae eu gwaith yn gymhleth; mae’n galw am sgiliau, profiad a gwybodaeth. Mae’r bobl hyn yn ymwneud â phobl fregus yn emosiynol mewn amgylcheddau heriol gydag adnoddau a chymorth cyfyngedig. Mae angen mwy o weithredu i frwydro yn erbyn cyflogau ac amodau gwael yn y sector. Mae angen i ni feithrin uchelgais yn ein gweithwyr gofal profiadol a’u hannog i ddod yn rheolwyr y dyfodol.
Gadewch i ni beidio ag anghofio goblygiadau refferendwm Ewrop. Gyda bron i 6 y cant o’n gweithlu gofal yn cynnwys gwladolion nad ydynt yn hanu o’r DU, rydym yn debygol o wynebu gostyngiadau sylweddol yn y lefelau staffio mewn sector sydd eisoes yn cael trafferth gydag anawsterau trosiant uchel a recriwtio.
Nawr, yn ystod fy ymweliadau diweddar â chartrefi gofal, dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro fod cartrefi preifat yn rhoi’r gorau i ofal nyrsio. Maent yn honni nad yw’n ymarferol yn economaidd a’u bod yn cael anawsterau eithafol wrth recriwtio nyrsys. Mae’n ymddangos bod y model preifat mewn trafferth. Felly, a ddylai’r wladwriaeth gamu i mewn yn awr a darparu mwy o gartrefi nyrsio i ateb y galw cynyddol? Mae angen i ni weithredu nid adweithio pan fydd pethau’n chwalu. Gadewch i ni ddefnyddio hwn fel cyfle i ddatblygu partneriaethau gyda chartrefi gofal preifat i atal y darparwyr hyn rhag methu. Gadewch i ni leihau’r ddibyniaeth ar nyrsys banc ar deirgwaith y gost a chefnogi’r gwasanaethau hyn, a gweithio gyda nyrsys y GIG a rhoi’r un cyfraddau ac amodau iddynt. Fodd bynnag, ni allwn gael system lle mae’r wladwriaeth yn berchen ar gartrefi gofal neu gartrefi nyrsio a bod llywodraeth adain dde yn y dyfodol yn dod i mewn a’u gwerthu, fel y maent wedi’i wneud gyda’r cymdeithasau tai yn Lloegr. Mae angen i ni ddatblygu model nad oes modd i’r wladwriaeth ei breifateiddio i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o henoed yn cael eu diogelu. Byddai hyn yn ategu’r argymhelliad i gael system sy’n fwy seiliedig ar gyfraniadau, y gallai unigolion hyd yn oed neu gydweithrediaethau fod yn berchen arni’n rhannol.
Bydd angen i ni roi ystyriaeth ychwanegol i fater cymhleth darparu gofal mewn lleoliadau gwledig, lle mae costau rhedeg a lefelau recriwtio isel ar gyfer cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio yn parhau i fod yn broblem, ac o ganlyniad yn atal buddsoddwyr preifat.
Yn olaf, mae angen dymchwel y rhwystrau artiffisial rhwng iechyd a gofal. Ar hyn o bryd, mae dadleuon ynglŷn â phwy sy’n talu a sut i dalu yn tagu’r system ac yn achosi oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae’r gronfa gofal canolraddol yn gam i’r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, nid yw £60 miliwn mewn cyllideb o oddeutu £7 biliwn ar gyfer iechyd yn ddim mwy na diferyn yn y môr. Mae angen i ni ofyn pa mor bell y dylem fynd i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a meddwl y tu hwnt i amgyffred hyd yn oed ac uno’r ddwy gronfa efallai, ond bydd angen trafod hyn yn sensitif gydag awdurdodau lleol.
Rwy’n gobeithio heddiw y gallwn roi cychwyn ar y cyfle hwn. Rwy’n credu mai ein cyfrifoldeb fel cynrychiolwyr etholedig yw sicrhau newid mewn perthynas â’r mater hynod o sensitif hwn. Roedd maniffesto Llafur Cymru yn pwysleisio’n gywir y dylai’r sector gofal fod yn sector o bwys cenedlaethol strategol, felly gadewch i ni adeiladu ar hynny a’i wneud yn realiti. Nid yw’r broblem hon yn mynd i ddiflannu. Rhaid i ni weithredu yn awr, ac mae’n rhaid i ni sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru.