Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch. Rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon, a diolch i Eluned, Mike a Dai am eu cyfraniadau. Mae’r Llywodraeth hon wedi canolbwyntio’n gadarn ers nifer o flynyddoedd bellach ar adeiladu gwasanaeth gofal addas ar gyfer pwysau’r byd modern. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i ddiwygio gofal, yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym wedi diogelu cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol er gwaethaf polisïau caledi Llywodraeth y DU, ac rydym wedi arwain y sector tuag at ddulliau newydd o gydweithio ac integreiddio. Ers 2011 a lansio ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’, rydym wedi darparu ymateb cydlynol a strategol i’r materion sy’n ymwneud â phoblogaeth sy’n heneiddio, a disgwyliadau uwch y cyhoedd a thwf ariannol cyfyngedig.
Fe wyddom, wrth gwrs, fod y boblogaeth yng Nghymru yn mynd yn hŷn. Mae disgwyliad oes yn cynyddu, a rhagwelir y bydd y gyfran o bobl 75 oed a hŷn yn cynyddu bob blwyddyn. Mae cymdeithas yn newid, a rhaid i wasanaethau cymdeithasol newid i ymateb i hynny. Fe fu newid yn nisgwyliadau’r cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, a bydd hynny’n parhau. Mae angen i wasanaethau cymdeithasol addasu ac ymateb yn sgil rhagolygon ariannol anodd.
Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid sail sylfaenol y system gwasanaethau cymdeithasol i ateb yr heriau hyn. Mae ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru’ wedi newid sylfeini gofal cymdeithasol, gan osod y dinesydd yn y canol a chydnabod mai gwasanaethau effeithiol yw’r rhai sy’n cael eu siapio gan y bobl sy’n eu derbyn.
Mae’r ffocws a’r her yn awr ar sicrhau bod y newidiadau sy’n seiliedig ar y ddau ysgogiad statudol pwysig ar gyfer trawsnewid, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn ymwreiddio’n llawn. Mae ein rhaglen lywodraethu newydd, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn cydnabod yn glir y rheidrwydd i wneud hyn. Mae’r rhaglen lywodraethu yn cydnabod heriau gwirioneddol costau gofal hefyd. Bydd y Llywodraeth yn mwy na dyblu’r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl yn ystod y weinyddiaeth hon, gan sicrhau bod pobl yn gallu cadw mwy o’u hadnoddau a enillwyd drwy waith caled pe bai angen iddynt gael gofal preswyl.
Mae partneriaeth a chydweithrediad yn ganolog i ddarparu gwasanaethau. Yr her yma yw gwneud gwaith iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd gydweithredol er mwyn darparu gofal a chymorth o ansawdd da i bobl ag anghenion, gan gydnabod bod angen i awdurdodau lleol a phartneriaid, yn cynnwys y trydydd sector, gwasanaethau tai a chymunedau gydweithio er mwyn sicrhau y gellir rhoi gwasanaethau ataliol ar waith i helpu pobl i fyw’n annibynnol.
Sefydlwyd byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol i ddod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector at ei gilydd i asesu, cynllunio a darparu ar y cyd ar gyfer anghenion eu poblogaethau. Mae hyn yn cynnwys cytuno ar gapasiti gwasanaethau sydd eu hangen gan gartrefi gofal, a threfniadau comisiynu integredig. Mae’r Llywodraeth hon wedi buddsoddi’n sylweddol i gefnogi modelau newydd arloesol o ofal. Eleni’n unig, mae’r gronfa gofal canolraddol wedi darparu £60 miliwn i ranbarthau, i hyrwyddo dulliau o atal ac integreiddio. Rwyf wedi gweld canlyniadau’r buddsoddiad hwnnw drosof fy hun ledled Cymru mewn cyfleusterau cam-i-lawr, mewn gwasanaethau gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd, mewn gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’r arian hwn yn sylweddol ac mae’n gwneud gwahaniaeth.
Gadewch i mi droi at y farchnad ym maes gofal cymdeithasol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ddarpariaethau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru edrych ymlaen a meddwl am ddyfodol y farchnad gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn rhoi pwerau newydd i’r rheoleiddwyr i fonitro iechyd y farchnad, yn enwedig y cwmnïau mawr y gallai eu hymadawiad achosi problemau sylweddol i’r rhai sy’n derbyn gofal. Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr i drafod y materion hyn a byddaf yn parhau i edrych ar ffyrdd y gallwn gefnogi sector cryf, bywiog a gwydn yn y dyfodol.
Mae’r darparwyr hynny, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, yn aelodau o grŵp llywio cartrefi gofal y Llywodraeth. Yn ddiweddar, gofynnodd y corff hwnnw i’r bwrdd comisiynu cenedlaethol gyflawni dadansoddiad marchnad o’r sector cartrefi gofal. Mae’r gwaith hwn yn allweddol, ac rwy’n disgwyl gweld canlyniadau’r ymchwil yn fuan. Bydd yn rhoi’r darlun cliriaf a gawsom erioed o’r ddarpariaeth a’r capasiti presennol o fewn y sector, ac rwy’n siŵr y bydd yn helpu byrddau partneriaeth rhanbarthol i ateb gofynion y Llywodraeth, o fis Ebrill 2018, eu bod yn sefydlu cronfeydd cyfun mewn perthynas â llety mewn cartrefi gofal i oedolion.
O ran y gweithlu, gwyddom fod y sector gofal yn wynebu pwysau sylweddol mewn perthynas â recriwtio a chadw staff. Mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi dros £8 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddiant ar gyfer y gweithlu ac mae wedi ymrwymo i roi camau ar waith i wella atyniad y sector i’r gweithlu posibl. Barn gyffredinol yr ymatebwyr yn ymgynghoriad diweddar y Llywodraeth ar wella ansawdd gofal cartref oedd y dylid gwella telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr gofal cartref. Mae’r cyflog byw cenedlaethol yn welliant sydd i’w groesawu i delerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod hyn yn creu heriau i iechyd ariannol y sector. Rwy’n ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio gyda’r sector i archwilio ac ymateb i heriau’r cyflog byw cenedlaethol.
Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil sylweddol ar y cysylltiadau rhwng telerau ac amodau’r gweithlu ac ansawdd y gofal, ac mae’r cysylltiad hwnnw bellach wedi’i hen sefydlu. Byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn bo hir, ochr yn ochr â datganiad ysgrifenedig yn nodi cyfeiriad teithio’r Llywodraeth hon yn hyn o beth. Byddaf yn gweithio gyda’r sector yn y cyfnod sydd i ddod i ystyried sut i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau, fel yr addawyd yn ein maniffesto.
Daw hyn â mi at un her derfynol sydd wedi dod yn amlwg yn ddiweddar, sef effaith y bleidlais i adael yr UE a’r ffaith y bydd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i’n cymdeithas. Ond mewn gwirionedd, efallai y bydd y risgiau i ofal cymdeithasol yn fwy uniongyrchol. Mae ein sector yn dibynnu ar weithlu o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac rwyf am i’r staff hynny deimlo’n ddiogel yn eu rolau a pheidio â theimlo dan fygythiad yn sgil canlyniad y refferendwm. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan bobl o’r tu allan i’r DU ac i sicrhau ein bod yn gallu denu gweithlu galluog a brwd i’n system gofal cymdeithasol.
Felly, mae llawer wedi cael ei gyflawni gan y sector mewn ymateb i’r newid trawsnewidiol a nodwyd yn y ddeddfwriaeth ddiweddar. Mae’r sector yn dal i wynebu heriau a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i oresgyn yr heriau hynny yn y dyfodol. Fe allwn ac fe fyddwn yn tyfu system gynaliadwy o ofal a chymorth yng Nghymru, sydd â lles, a chanlyniadau da i bobl yn ganolog iddi. Diolch yn fawr.