11. 8. Dadl: Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 5:08, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Nawr, fel y dywedais, Lywydd, pan gyhoeddais y rhaglen lywodraethu, mae ein blaenoriaethau ar gyfer y weinyddiaeth hon yn glir. Rydym yn awyddus i gael economi gryfach, decach, gwasanaethau cyhoeddus wedi’u gwella a’u diwygio a Chymru unedig, sy'n gysylltiedig ac yn gynaliadwy. Rydym wedi dewis y pedwar maes lle y credwn y gall y Llywodraeth gael yr effaith fwyaf ac y gall chwarae'r rhan gryfaf wrth weithio tuag at y nodau cenedlaethol. Y meysydd blaenoriaeth hyn—ffyniannus a diogel, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac yn dysgu, ac unedig a chysylltiedig—yw'r meysydd ymbarél a fydd yn caniatáu i’r Llywodraeth a'i phartneriaid weithio ar draws ffiniau traddodiadol a sicrhau gwelliannau ar gyfer pobl yng Nghymru. A bydd popeth a wnawn fel Llywodraeth yn cael ei arwain gan y blaenoriaethau hynny.

Wrth i ni edrych tuag at Gymru ffyniannus a diogel, byddwn yn gweithio'n galed i gefnogi’r nod o greu swyddi ledled Cymru, arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, ond hefyd eu helpu i fyw eu bywydau yn ddiogel. Rydym wedi nodi ein prif gynlluniau ar gyfer cefnogi busnesau drwy doriadau treth ac ymrwymiad i ddiwydiant amaethyddol ffyniannus. Byddwn yn cefnogi pobl i gael swyddi drwy 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed a byddwn yn cael gwared ar y rhwystrau i weithio, drwy’r pecyn mwyaf hael o ofal plant i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw ran o’r DU—cymorth na fydd yn cael ei gyfyngu i amser tymor.

Lywydd, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r hawl i brynu. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu i warchod y stoc tai cymdeithasol, stoc y byddwn yn ei chynyddu yn rhan o'n hymrwymiad i gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Byddwn hefyd yn gweithio tuag at ffyniant cynaliadwy hirdymor sydd hefyd yn cynnig dyfodol diogel i ni, ac mae hynny'n golygu symud tuag at ein nod o leihau 80 y cant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

Lywydd, rydym yn falch o'n hanes o gynyddu buddsoddiad yn y GIG a byddwn yn parhau i weithio tuag at Gymru iach ac egnïol. Rydym yn gwybod na all y GIG gyflawni ein blaenoriaethau ar ei ben eu hunain ac yma, yn fwy na dim ac unrhyw le arall, rydym yn deall pwysigrwydd buddsoddi yn gynnar i atal problemau yn nes ymlaen. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod triniaethau ar gael, oes, ond ni fyddwn byth yn colli golwg ar ein nod tymor hir i leihau'r angen am driniaethau, gan alluogi pobl i fyw bywydau iach a llawn. Mae hynny, wrth gwrs, yn gydbwysedd anodd ei daro: gwario i drin heddiw wrth fuddsoddi i atal yn y dyfodol. Ond rwy'n hyderus bod ein blaenoriaethau yn adlewyrchu hynny.

Byddwn, ar sail hynny, yn cyflwyno Bil iechyd y cyhoedd i wella a diogelu iechyd a lles poblogaeth Cymru. Byddwn yn blaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys cynllun presgripsiwn cymdeithasol peilot a mwy o fynediad at therapïau siarad. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig ochr yn ochr â thrawsnewid ein hystâd ysbyty, integreiddio gwasanaethau ac adeiladu model sy'n cyfateb yn well ag anghenion a gwasanaethau lleol.

Lywydd, byddwn yn gweithio tuag at Gymru uchelgeisiol sy’n dysgu, ac sy'n gallu cefnogi ein nod o ffyniant a diogelwch. Rydym yn dymuno gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol, ond rydym hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw llwyddiant neb yn cael ei bennu ymlaen llaw gan ble y maent yn byw, faint y mae eu rhieni yn ei ennill, neu a oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn golygu cefnogi ein pobl ifanc i gychwyn eu taith yn gynnar gyda'n rhaglen arloesol Dechrau'n Deg. Mae hefyd yn golygu buddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol i godi safonau ysgolion i bawb. Mae'n golygu ymestyn y grant amddifadedd disgyblion i ddarparu cefnogaeth ychwanegol wedi’i dargedu i ysgolion, a bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg yn sefydlu system lle mae dysgwyr yn ganolog i bopeth, lle mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, lle’r eir i'r afael â nhw yn gyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

Lywydd, wrth gwrs, nid yw uchelgais na dysgu yn gorffen pan fyddwn yn gadael yr ysgol. Rydym wedi ymrwymo i wella llwybrau academaidd a galwedigaethol, gan gynnwys i mewn a thrwy addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion Syr Ian Diamond mewn egwyddor a bydd y rhain yn helpu i lunio pecyn cymorth i fyfyrwyr y byddwn yn ei gyflawni.

Yn olaf, ond nid lleiaf, unedig a chysylltiedig: mae’r flaenoriaeth hon yn cofnodi ein huchelgais i dyfu gyda'n gilydd fel gwlad, ac i’n rhwymo ni at ein gilydd fel cymdeithas lle mae pawb yn cael ei barchu a'i werthfawrogi—Cymru sydd â'r hyder i gymryd ei lle yn y byd. Mae'r DU yn tynnu allan o'r UE yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i wneud yn well nag y disgwylir i ni ac edrych y tu hwnt i'n ffiniau. Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae cymunedau yn ffynnu, yn cael eu cysylltu gan lwybrau trafnidiaeth ardderchog, a chyda pob eiddo yng Nghymru yn elwa o fand eang dibynadwy, cyflym.

Lywydd, yn gynharach heddiw gwnaethom amlinellu ein cynlluniau ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, a fydd yn parhau i’w gweld wrth galon eu cymunedau, ond yn gweithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. A byddwn yn parhau i hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth Cymru drwy weithio tuag at gael 1 filiwn o bobl sy'n siarad Cymraeg erbyn 2050.

Lywydd, rydym eisiau cael cymdeithas deg a byddwn yn deddfu i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016 sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Bydd eleni hefyd yn ein gweld yn cyflwyno dau Fil treth, gan baratoi'r ffordd i ni godi ein trethi ein hunain am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd. Lywydd, mae hon yn gyfres uchelgeisiol o flaenoriaethau ar gyfer Cymru, cyfres o flaenoriaethau sydd eisoes wedi llywio ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn hon ac a fydd yn ein tywys wrth i ni gyflawni ein rhaglen lywodraethu.

Ar y pwynt hwn, hoffwn droi at y gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno—heb eu cynnig eto, wrth gwrs—gwelliant 1 yn enw Paul Davies: ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw. Rydym yn gwybod bod hon yn rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol a bod pobl Cymru yn ei chefnogi. O ran gwelliant 2, unwaith eto, nid ydym yn credu bod y rhaglen ar gyfer yr wrthblaid yn fwy uchelgeisiol—rwy'n siŵr bod hynny'n syndod mawr i feinciau Plaid Cymru. Ond, wrth gwrs, mae cyffredinedd â Phlaid Cymru mewn nifer o feysydd ac, wrth inni symud ymlaen, rydym yn edrych i wella’r cyffredinedd hwnnw. O ran gwelliant 3, mater i'r Cynulliad hwn yw mesur sut y mae'r Llywodraeth yn perfformio, a dyna beth y mae wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf. Mater i’r Cynulliad yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran ei chynnydd. Byddwn, felly, yn gwrthwynebu'r gwelliant hwnnw.

O ran gwelliant 4, bwriedir i'r rhaglen lywodraethu gyflawni. Wrth gwrs, y peth amlwg nad oed modd ei drafod yw’r hyn sy'n digwydd gyda Brexit, ond y gwir amdani yw nad oes neb, ar y cam hwn, yn gallu rhagfynegi gydag unrhyw gywirdeb mawr beth fydd yn digwydd, ond byddwn yn gwybod mwy cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ar y cyfeiriad y mae’n dymuno mynd iddo. Ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw.

O ran gwelliant 5, ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw, oherwydd bydd y manylion yn ymddangos, wrth gwrs, yn ystod y rhaglen lywodraethu, ond rydym wedi tynnu sylw yn glir i’r cyfeiriad yr ydym yn dymuno mynd iddo.

Byddwn yn derbyn gwelliant 6. Mae'n hollol bwysig, wrth gwrs, bod digon o amser ar gyfer craffu, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn fodlon ei gefnogi. Lywydd, mae hon yn rhaglen uchelgeisiol ar gyfer pobl Cymru, rhaglen y maent wedi pleidleisio drosti ym mis Mai a byddant yn disgwyl i ni ei chyflawni, ac rwy’n ei chynnig gyda balchder, felly, o flaen y Cynulliad.