11. 8. Dadl: Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:37, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn agor drwy fynd i'r afael ag anghenion Cymru ffyniannus a diogel. Her ganolog y pum mlynedd nesaf ar gyfer y Llywodraeth hon yw'r dasg o greu polisi economaidd newydd sy'n gweithio i Gymru yn y byd newydd yr ydym yn canfod ein hunain ynddo. Rydym yn ceisio llywio ein ffordd ar hyn o bryd trwy ddyfroedd dieithr. Nid ydym yn gwybod eto, unrhyw un ohonom, beth fydd Brexit yn ei olygu i fasnach, i fewnfudo, i swyddi. Ac yn amlwg bydd set o drafodaethau cymhleth iawn yn dylanwadu ar y math o berthynas sydd gennym ni â'r UE, ac, afraid dweud, mae sicrhau’r canlyniad cywir i Gymru yn hanfodol.

Ond mae mwy yn y fantol hyd yn oed na'r union setliad y mae Cymru yn ei gyflawni o ganlyniad i'r trafodaethau hynny. Yr her sylfaenol i ni yn awr yw gwneud i globaleiddio weithio ar gyfer y cymunedau sydd wedi’u siomi cymaint gan effeithiau’r union beth hynny. Ac ni all yr ateb i hynny fod i gau ein drysau a gobeithio y bydd yr heriau a wynebwn, marchnadoedd byd-eang, effeithiau technoleg a symudiad pobl o gwmpas y byd rywsut yn pasio heibio i ni, oherwydd ni fyddant yn gwneud hynny. Felly, rwy'n falch o weld, yn y rhaglen lywodraethu ac yn natganiadau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r Prif Weinidog, ymrwymiad clir i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru, ac i agor marchnadoedd allforio i gwmnïau o Gymru. Mae angen hefyd adeiladu gwydnwch ein heconomi domestig, er mwyn rhoi ar waith, i'r graddau y gall unrhyw Lywodraeth, yr amodau sy'n galluogi i’n cwmnïau bach ddod yn gwmnïau cadarn, canolig eu maint, i'w helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol ac i gefnogi eu marchnad lafur leol.

Felly, unwaith eto, rwy’n croesawu'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ar gyfer y cynllun cyflymu busnes a banc datblygu Cymru. Rwy’n croesawu'r ymrwymiad i ddefnyddio polisi caffael i gefnogi manteision cymunedol. Ond byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth hefyd i beidio â cholli golwg ar y twf mewn hunangyflogaeth a microfusnesau, a fydd yn nodwedd gynyddol o'n heconomi, hyd yn oed tu hwnt i'r hyn ydyw heddiw, ac i weithredu’r ymyriadau polisi sydd eu hangen arnom i gefnogi hynny hefyd.

Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth yr wyf wedi’i chlywed gan y Llywodraeth, gan y Gweinidog sgiliau ac eraill, bod yn rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant yr ydym wedi'i gyflawni wrth gael swyddi i bobl, gan ganolbwyntio yn awr ar gefnogi pobl i ddatblygu o fewn y gweithle. Man cychwyn yw cael swydd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr y gall y rheiny sydd mewn cyflogaeth ddatblygu, meithrin mwy o sgiliau ac ennill mwy. Ac rwy’n falch o weld bod polisïau yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â’r rhai yn ein cymunedau sydd bellaf oddi wrth y gweithle i mewn i waith. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant gyda’n polisïau cymorth cyflogaeth, ond mae'n iawn ein bod ni’n dal i herio ein hunain i sicrhau bod y cymorth a ddarparwn yn diwallu anghenion newidiol ein heconomi a’n gweithlu.

Mae angen i ni feddwl yn eang am sut beth yw swydd dda. Mae swydd dda yn un sy'n cefnogi pobl i fyw a gweithio yn eu cymuned, os mai dyna beth y maent ei eisiau, i ofalu am eu teuluoedd ac i fod yn aelodau sy’n chwarae rhan lawn mewn cymuned wydn. Mae'r rhain hefyd yn agweddau hanfodol ar gymdeithas dda. Felly, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi prosiectau a gyflwynir ar lefel gymunedol, prosiectau i hyrwyddo datblygu sgiliau, creu swyddi, entrepreneuriaeth, ynni cymunedol, cludiant gwledig a mynediad at fand eang. A gadewch i ni beidio ag anghofio y gall ein partneriaid yn y sector gwirfoddol fod yn gynghreiriaid ar gyfer creu'r math o gymunedau yr ydym yn dymuno eu cael, sef cymunedau gwydn, wedi’u hadfywio. Felly, bydd hynny’n golygu her ac ymrwymiad ar y ddwy ochr.

Un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu heddiw yw sut i ailgynllunio'r gefnogaeth a roddwn i gymunedau difreintiedig pan na fyddwn mwyach yn cael mynediad at gronfeydd strwythurol. Mae'n ddyddiau cynnar iawn ar y ar hyn o bryd, wrth gwrs, ond bydd angen system o gymorth arnom ni sy'n hyblyg, nid yn anhyblyg, sy’n rhan o strategaeth ar gyfer Cymru gyfan gyda blaenoriaethau clir ond wedi’u teilwra’n ddeallus i anghenion lleol hefyd.

Felly, yn olaf, croesawaf gydnabyddiaeth y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu y bydd ein huchelgeisiau yn cael eu ffurfio gan yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae'n rhestru cyni parhaus, ymadawiad y DU o'r UE, globaleiddio, arloesi technolegol, newid yn yr hinsawdd a phoblogaeth sy'n heneiddio—i gyd yn wir, a byddwn yn ychwanegu at yr her honno, yr her o gynnwys y cyhoedd yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud. Mae honno’n her fawr, ond rydym yn genedl fach a dyna sut y dylem fod yn mynd o gwmpas ein holl waith. Felly, rwy'n falch bod mentrau megis tasglu’r Cymoedd wedi rhoi’r nod o ymgysylltu â chymunedau yn rhan greiddiol o’u gwaith mewn ffordd sylfaenol iawn. Gobeithiaf mai hwn fydd yr egwyddor ar gyfer sut yr ydym yn cyflwyno'r rhaglen lywodraethu hon yn gyffredinol.