Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 4 Hydref 2016.
Brif Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi bod yn eithaf clir bod gweithrediad effeithiol y Deddfau a basiwyd yn y Cynulliad diwethaf, yn ogystal â datblygu deddfwriaeth newydd yn nhymor y Cynulliad hwn ymysg y blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru ac, yn wir, blaenoriaethau deddfwriaethol. Rwy’n meddwl, ym marn llawer o bobl, mai un o prif ddarnau o ddeddfwriaeth y Cynulliad diwethaf oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae llawer iawn o ddisgwyliad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno—ac yn gwbl haeddiannol, rwy’n credu—oherwydd ein bod ni i gyd yn cytuno, neu bron bob un ohonom yn cytuno, y gallai ac y dylai fod yn drawsffurfiol o ran meddwl am ddatblygu cynaliadwy a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau yn unol â'r egwyddorion hynny ac yn trawsnewid y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yng Nghymru.
Felly, mae llawer iawn o ddiddordeb yn y Ddeddf a sut y bydd y Ddeddf yn cael ei datblygu. Rwy’n meddwl, yn amlwg, y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod ychydig yn amyneddgar i weld sut y mae hynny'n mynd rhagddo, ond nid yn rhy amyneddgar, efallai. Mae rhywfaint o'r diddordeb ymhlith cyrff allanol ar hyn o bryd ynghylch gofynion y Ddeddf o safbwynt Llywodraeth Cymru a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion o dan y ddeddfwriaeth, o ran cyhoeddi'r amcanion lles a’r datganiad yn esbonio sut y maent yn cysylltu â'r nodau, ac, yn wir, sut y mae'r rhaglen lywodraethu, y gyllideb, y pedair strategaeth i ddatblygu’r rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar, Brif Weinidog, ynghyd â'r amcanion a datganiadau lles hynny, sut y bydd pob un o'r rheiny yn cysylltu â'i gilydd, fel y bydd pawb yng Nghymru a thu hwnt yn gallu bod yn gwbl glir ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth ohoni, a hynny mewn modd amserol. Felly, byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch hynny, Brif Weinidog.
Y ddeddfwriaeth arall yr hoffwn i sôn amdani yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, oedd unwaith eto, rwy’n meddwl, â phroffil haeddiannol o uchel o ran y Deddfau a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad. Mae'n bwysig iawn ar gyfer iechyd, ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer trafnidiaeth integredig, yr economi ac, yn wir, ansawdd bywyd yn gyffredinol. Felly, mae sut y bydd awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â'u dyletswyddau o ran y mapiau llwybrau presennol a’r mapiau llwybrau integredig, hybu teithio llesol, gwelliant parhaus, a sut y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i greu'r seilwaith a’r llwybrau beicio llawer gwell a fydd yn wir yn gyrru newid moddol mewn ymddygiad pobl, rwy’n meddwl, yn gwbl hanfodol. Felly, pe gallech ddweud ychydig, Brif Weinidog, wrth ymateb, am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu'n effeithiol, rwy'n credu, unwaith eto, y byddai llawer iawn o ddiddordeb y tu hwnt i’r Siambr hon yn hynny.