Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 4 Hydref 2016.
Mae'r achos busnes yn dal i gael ei asesu, ond rydym yn deall bod angen moderneiddio ac uwchraddio cyfleusterau yng Ngwent, yn ardal Aneurin Bevan. Mae hynny'n rhywbeth y mae’r Gweinidog yn gwbl ymwybodol ohono, ond mae angen gwneud yn siŵr bod y prosiect, wrth gwrs, yn gadarn o safbwynt ariannol, y gall symud ymlaen, a sicrhau bod yr amgylchiadau yn bodoli lle y gall hynny ddigwydd. Dyna'r amcan.
O ran addysg, rydym yn gweld mwy a mwy o welliannau mewn TGAU. Soniodd am Lefel O; dwi'n synnu ei fod yn gallu eu cofio nhw—rwyf innau’n eu cofio, rwy’n gwybod hynny. Rydym yn hapus â'r ffordd y mae canlyniadau TGAU yn gwella ledled Cymru; rydym yn disgwyl i hynny barhau. Mae'n sôn am fanylion; os ydych chi’n dymuno gweld manylion, edrychwch ar ein maniffesto. Yn hwnnw fe welwch yr awgrymiadau yr ydym wedi’u rhoi gerbron pobl Cymru, a byddwn yn cadw atynt.
O ran yr hyn a ddywedwyd gan ddau siaradwr Plaid Cymru—mae amser yn brin gallaf weld, Lywydd. Wel, rydym yn gwybod ei fod yn hynod o bwysig: mae hi a minnau ar union yr un dudalen ac nid ydym yn dymuno gweld pwerau yn cael eu dwyn ymaith o'r lle hwn a’u cymryd i San Steffan. Nid ydym yn gweld hynny yn awr gyda chyllid Ewropeaidd a chroesawaf hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinydd yr wrthblaid ar gynigion deddfwriaethol. Rydym yn gwbl ymwybodol, o ystyried rhifyddeg y lle hwn, bod yn rhaid i unrhyw gynigion gael cefnogaeth ar draws y Siambr, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi ar hynny.
O ran rhai o'r materion a gododd Simon Thomas, mae dau fater yno i fynd i'r afael â nhw yn gyflym iawn. O ran comisiwn seilwaith cenedlaethol, bydd yn gwybod fy mod yn gwrthwynebu cwangos. Mae'n arbennig o anodd, rwy’n meddwl, i wario degau o filiynau ar gwangos pan ellid defnyddio’r arian hwnnw yn well mewn mannau eraill. Mae angen archwilio hynny’n ofalus iawn, iawn. Hefyd, wrth gwrs, gwelais y cynigion heddiw a gyflwynwyd—fe’u darllenais gyda diddordeb—gan Adam Price, ond byddai'n golygu ymrwymiad refeniw o £700 miliwn y flwyddyn o gyllideb refeniw'r Cynulliad, sy'n swm nid ansylweddol pe byddai’r cynigion hynny yn cael eu dwyn ymlaen.
Ar wastraff, mae hyn yn broblem go iawn. Gellir ymdrin â sgil-gynhyrchion gwastraff gan eu bod yng Nghymru, ond o ran pecynnu, wrth gwrs, sut ydych chi'n monitro hynny? Gallwch ei wneud mewn siopau. Mae'n fwy anodd o lawer pan fod pobl yn prynu pethau o dramor. Felly, rwy’n cytuno ag ef bod lleihau gwastraff fel y mae’n cyrraedd Cymru yn fater eithriadol o bwysig, ond mae delio ag ef wedi bod yn fwy anodd. Wrth gwrs, unwaith y mae yma’n barod, rydym yn mynd i’r afael ag ef, ac rydym wedi gweld ein ffigyrau ailgylchu yn gwella. Clywais yr hyn a ddywedodd am y Ddeddf awtistiaeth a symud ymlaen o ran cosb resymol.
Os gallaf droi at yr hyn a ddywedodd fy nghydweithiwr, Jenny Rathbone. Mae lleihau allyriadau yn bwysig i ni. Rwyf eisoes wedi crybwyll y targed erbyn 2050. Rwyf yn gobeithio bod yma. Ddim yn y swydd hon—fe glywsoch chi hynny yma gyntaf—ond yn sicr yn fyw yn 2050. Felly, mae'n debyg, ar y pwynt hwnnw, y gofynnir fy marn arno, yn ddiau, os ydw i'n gallu rhoi barn o'r fath. O ran bwyd, ni fydd Prydain byth yn hunangynhaliol o ran bwyd. Dysgodd y rhyfel hynny i ni. Mae pum deg pedwar y cant o'r bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael ei gynhyrchu yn y DU. Oherwydd ein topograffi a lle rydym yn byw ar y byd, nid yw'n bosibl cynhyrchu llawer o lysiau a ffrwythau heb ddefnyddio rhai dulliau eithaf dwys o ran ynni. Mae'n wir bod Gwlad yr Iâ yn cynhyrchu tomatos—mae ganddi ynni geothermol. Pe byddem ni’n mynd i lawr yr un llwybr, byddai llawer o ynni yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r ffrwythau a’r llysiau hynny. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar sut y mae hynny’n cyd-fynd â’r angen i leihau allyriadau yn fyd-eang.
Yn gyflym iawn, iawn, oherwydd gallaf weld bod yr amser yn rhedeg allan. Clywais yr hyn a oedd gan Nick Ramsay i'w ddweud. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth gwrs bod heriau wrth roi deddfwriaeth trethiant cadarn ar waith a honno hefyd yn ddeddfwriaeth deg. Rydym yn barod am y dasg honno. Mae'n drueni mawr nad yw’r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli. Nid wyf yn dal i ddeall pam y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei gweld yn dda i amddiffyn buddiannau meysydd awyr y tu allan i Gymru ac nid maes awyr yn ei etholaeth ei hun, dyna eironi mawr. Nid oes dim rheswm wedi ei roi ynghylch pam na ddylai’r doll teithwyr awyr gael ei datganoli, heblaw am y ffaith ei bod wedi cael ei rhoi i'r Alban, a oedd yn gamgymeriad ac felly ni ddylai Cymru ei chael. Dyna lefel y ddadl a gawsom yn y cyswllt hwnnw.
Yn olaf, fy ffrind a’m cydweithiwr John Griffiths. Mae'n hollol wir; rydym yn symud ymlaen yr hydref hwn gan ddatblygu nodau ymhellach o ran rhoi mwy o gig ar yr esgyrn—rydym yn deall hynny. Mae'r Ddeddf teithio llesol yn hanfodol bwysig. Fel un a oedd ar ffordd genedlaethol 4 ddydd Sul, ar fy meic fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i wneud yn siŵr bod beicio yn cael ei weld fwyfwy fel dull o deithio yn ogystal ag fel ffurf o hamdden iach. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i’n hawdurdodau lleol, wrth fynd i'r afael â'r Ddeddf teithio llesol, sicrhau bod mwy o lwybrau beicio a llwybrau beicio mwy diogel ar gael fel y gall pobl deithio i'r gwaith. Rydym yn gwybod bod llawer iawn o feicwyr achlysurol nad ydynt am gymysgu â cheir ar y ffyrdd, ac mae angen iddynt gael y cyfleusterau i’w gwahanu oddi wrth geir er mwyn iddynt gael teithio i’r gwaith yn ddiogel.
Rwyf dros saith munud, Lywydd. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r materion a godwyd. Wrth gwrs, rwy’n llwyr ddeall, gyda'r rhaglen wedi ei rhoi gerbron y Cynulliad, ei fod yn fater i ni fel Llywodraeth i’w chyflawni.