Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Hydref 2016.
Credaf fod dinas-ranbarth Bae Abertawe yn datblygu'n dda iawn fel cyfrwng ar gyfer datblygu economaidd. Fodd bynnag, rwy’n gweld swyddogaeth fwy strategol iddo mewn pethau fel cynllun strwythur. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ac a wnaiff y Prif Weinidog geisio defnyddio ôl troed dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru?