Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 4 Hydref 2016.
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gwestiynau yr wythnos diwethaf fod Aelodau'r Cynulliad braidd yn anniddig nad oeddem ni’n clywed llawer gan fwrdd y cytundeb dinas, ond rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael briff cryno ganddo erbyn hyn. O hynny, mae'n ymddangos mai eu pryder mawr ar hyn o bryd yw’r mater o lywodraethu yn y tymor byr i’r tymor canolig, ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan awgrymu model dielw ar gyfer y dyfodol. O gofio bod y bwrdd hwn dim ond gyda’i gilydd am chwe mis arall, neu lai na hynny, pryd fyddwch chi’n ymateb iddyn nhw a beth fyddwch chi’n ei ddweud wrthynt?