Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 4 Hydref 2016.
Brif Weinidog, os yw dinas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd i fod yn llwyddiant, bydd yn gofyn am weithio ar y cyd, nid yn unig rhwng y pedwar awdurdod lleol ond cydweithio gyda dinas-ranbarth Caerdydd a chyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi’r cynlluniau uchelgeisiol a gyflwynwyd gan fwrdd y ddinas-ranbarth. Pa welliannau seilwaith y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio ar gyfer rhanbarth bae Abertawe dros y pum mlynedd nesaf; a sut ydych chi’n bwriadu cysylltu rhanbarth ehangach bae Abertawe â phrosiect metro de Cymru?