<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Oes, mae’n rhaid i’r model fod yn hyblyg i gydnabod realiti economaidd, nid ffiniau gwleidyddol. Rydym ni’n deall hynny. Mae'r ddinas-ranbarth, a'r rheswm pam mae Cwm Cynon yn y ddinas-ranbarth ynghyd â Chaerdydd, yw oherwydd tuedd y cysylltiadau ffyrdd, a’r cyswllt rheilffordd yn arbennig, i ddod i mewn i Gaerdydd. Ond, wrth gwrs, fel y gwyddom, o gylchfan Baverstock i gyfeiriad y gorllewin, ceir cysylltiadau i Abertawe hefyd. Nid oes unrhyw reswm pam na all y ddau ddinas-ranbarth weithio gyda'i gilydd, gan weld eu hunain fel cydweithwyr ar gyfer ffyniant cyfunol yn hytrach na chystadleuwyr.