<p>Adeiladu Tai Cymdeithasol </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:37, 4 Hydref 2016

Rwy’n croesawu’r ffaith bod cynghorau yn dechrau adeiladau tai cyngor eto, ond y prif gyfrwng, wrth gwrs, i greu tai cymdeithasol yw cymdeithasau tai, ac rwy’n datagan diddordeb fel aelod o gymdeithas tai. Mae gan benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i newid statws cymdeithasau tai yng Nghymru, i fod yn y sector gyhoeddus, oblygiadau difrifol i Lywodraeth Cymru o safwbynt y £2.5 biliwn o ddyled a fydd gyda’r Llywodraeth erbyn hyn. Pa gamau, felly, mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa yma, ac a ydych chi’n bwriadau deddfu yn glou i gywiro’r sefyllfa yma?