Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 4 Hydref 2016.
Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno efallai mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i fod yn alluogwyr trwy ryddhau tir, neu, fodel sy'n cael ei ffafrio mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yw cynorthwyo grwpiau cymdogaeth a chymunedol sydd eisiau dod at ei gilydd i adeiladu eu cynlluniau eu hunain? Rwy'n gweld hon fel ffordd ymlaen i lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn sydd wedi eu hallgau o dai teuluol ddod at ei gilydd a chytuno ar y modelau hyn, pan eu bod yn fach ac yn ddichonadwy ar gyfer y dyfodol.