Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Hydref 2016.
Brif Weinidog, mae cael gweld meddyg teulu yn dod yn fwy a mwy o broblem i gymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir i bobl sy'n gweithio. A allwch chi ddweud wrthym beth yw canran y meddygfeydd teulu ledled Cymru sy’n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd?