Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 4 Hydref 2016.
Rydym ni wedi cyflawni, a chydnabuwyd hynny gan bobl Cymru ym mis Mai. Nid yw’n ddim gwahanol i’w arweinydd. Mae fel gwylio pryfyn yn taro ei hun yn erbyn ffenestr dro ar ôl tro heb wneud unrhyw gynnydd o gwbl. Wel, gadewch i mi eich helpu gyda mwy o ffigurau. Yn 2015, roedd 82 y cant—373 o feddygfeydd—ar agor am oriau craidd dyddiol o 8 a.m. tan 6.30 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener—cynnydd o 80 y cant yn 2014, ar ben—ar ben—y mynediad y soniais amdano’n gynharach. Y gwir yw ei fod wedi cael ei ffigurau’n anghywir, a’n bod ni wedi cyflawni ein haddewidion.