Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 4 Hydref 2016.
Wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo ac yn rhannu uchelgais y Prif Weinidog yn y maes hwn. Mae llawer o ffermwyr wedi dweud wrthyf y byddent yn hoffi gweld gwariant Llywodraeth Cymru ar amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei neilltuo. A yw hwnnw’n ymrwymiad y byddai'r Prif Weinidog yn ystyried ei wneud, o bosibl yng nghyd-destun sicrwydd gan Lywodraeth y DU o gyllid yn y dyfodol ac ymreolaeth polisi i Gymru?