Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Hydref 2016.
Roedd hi'n ddiddorol iawn y diwrnod o'r blaen, Brif Weinidog, gweld sylwadau a wnaed gan 35 o ASau Ceidwadol yn dweud y dylem ni achub ar y cyfle hwn i edrych o'r newydd, ar ôl 2020, ar sut yr ydym ni’n defnyddio'r hyn a elwir yn 'gyllid cyhoeddus' ar gyfer enillion cyhoeddus hefyd, fel enillion amgylcheddol, lliniaru llifogydd, ac yn y blaen.
Brexit yw’r mater uniongyrchol, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda ffermwyr i gael yr hyn sy'n iawn i Gymru a ffermwyr Cymru. Ar ôl 2020, a yw’n edrych ymlaen, a yw’n sganio beth allai’r cyfleoedd fod yno i wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu manteision eang rheoli tirwedd yn dda yn ogystal â chynhyrchu bwyd, ac a yw’n gwneud hynny ar y cyd â Llywodraeth y DU? A ydyn nhw o’r un safbwynt?