<p>Y Swyddfa Ystadegau Gwladol </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 1:59, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae campws gwyddoniaeth data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd. Nod y campws yw datblygu arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes gwyddoniaeth data ac elwa ar ddata economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyflymach a chyfoethocach. Bydd y campws hefyd yn gwneud gwaith ymchwil arloesol er lles y cyhoedd, gan fanteisio ar dwf a’r ffynonellau arloesol sydd ar gael. Bydd nifer o brentisiaethau gwyddoniaeth data o dan gynllun Llywodraeth Cymru yn cael eu llenwi, a bydd MSc mewn dadansoddi ar gyfer llywodraeth yn dechrau yn 2017, gan weithio gyda nifer o brifysgolion. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu arbenigedd sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n cynnig cyfle i greu canolfan ddata o amgylch y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd trwy ddenu cwmnïau eraill. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ac annog y datblygiad hwn er budd economi Cymru?