Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 4 Hydref 2016.
Yn dilyn ailddosbarthiad cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnewch chi, Brif Weinidog, nodi a ydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol tebyg i rai Llywodraeth y DU yn Lloegr i gadw statws cymdeithasau tai o fod yn fusnesau cymdeithasol annibynnol, yn dilyn, wrth gwrs, newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008 Llywodraeth ddiwethaf y DU?